Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Rhif. 2.] CITẂrEFRÖR, 1824. [Cyf. III. YCHYDIG O HANES ROWLENS WHITE, YMertuyr, yr hum a losgwyd yn agos i Gaerdydd, Maìorth 30, 1555. Nid oedd Rowlins White ond pysg- odwr iselradd, mor anwybodus fel na fedrai air ar ]yfr, ac yn Babydd hunan-gyfiawu. Yn nechreuad teyrn- asiad Edward VI, daeth dan wasgfa ddwys am ei gyflwr, yn wrandawwr dyfal, ac yn ymofynwr difrifol am adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Fel ag yr ydoedd yn hollol ddiddysg, ci anwybodaeth, yn neillduol o air Duw, a wasgai yn ddwys ar ei feddwl. Hyn a*i taeddodd i roddi ei fab yn yr ysgol i ddysgu darllen Saesonaeg ; ac wedi hyny eifab hwn a ddaillenai i'w dad ryw gyfran o air Duw bob nos. Trwy y moddion hyn cynnyddodd ei . ẃybodaeth gymainí fel ag y daeth yn nodedig yn mysg ei gymydogion, y rhai a'i cyfrifent ef yn Ilawer gwell ysgrythyrwr na physgodwr. Trwy wrandaw ar ei blentyn yn darîlen y gair, cyfeillachu ag anibell mi dnwiol, a dwys weddio ar Dduw am addysg yr Ysbryd Glan, daeth yn abl i ddysgn eraill yn mhetba» yr Arglwydd. IV dyben yma cerddai o fan i fan yn ei ■ gymydogaeth ; ond nid heb ei fachgen i ddarllen y Beibl iddo ef ei hun ac i eraill, Trwy hyn daeth yn fuan yn dra adnabyddus yn Nghaerdydd a'r wlad oddiamgylch. Wedi iddo bro- ífesu ac ymdrechu o blaid y gwiriou- edd fel hyn o aragylch pum mlÿnedd, bu farw Edward VI, a Mari waedlyd a esgynodd i'r orsedd. Ar hyn y bwystfil Pabaidd a gododd ei ben raor uchel fel na oddefìd i Rowlins gynghori ei gymydogion yii gyhoeddtas fel o'r bíaen. . Eto mewn Ileoedd dir- gelaidd y cai nifer o gyfeillion jií nghyd, a rhoddai iddynt y cyngliorion a'r annogaethau mwyaf dwys a serch- iadoî i lynu wrth yr Arglwydd; a'i addysgiadau iachusol a fuont yn fen- dithiol i laweroedd yn nghanol y dymestl greulon o erledigaeth. Cy- maint oedd gelyniaeth y Pabyddioa iddo, hyd nes ydoedd yn dysgwyl o ddydd i ddydd gael ei ddal ganddynt a'i garcharu. Yn yr enbydrwydd. hwn Uawer a gawsent les a benditb. trwy ei addysgiadau, ac a'i taer annog- aseut ef i ífoi am ei einioes: ond yn. ddiysgog yn eifwriad, dywedai ei fod. yn cofio rbybydd Crist, " Y neb a'm gwado i ger bron dynion# minnau a'i gwadaf ynteu yn ngŵydd fy Nhad." 4 Am hyny, (eb efe) dygaf fy nhyst- iolaeth iddo ger bron y byd.' Er hyn parhau i fod yn daer arno am ddianc yr oedd ei gyfeillion, ac yutau yn par- hau yn ddiysgog yn eu gwyneb. O'r diwedd daliwyd ef gan swyddogion y dref, adygasant ef o flaen Esgob Llandaf. Ar ol amrai holiadau gan yr Esgob, traddodwyd ef i'r carchar yn nbref Cliepstow yn Sir Fynwy, lle bu di os gryn yspaid ; eto, naill ai trwy dirioudeb y ce.idwad, neu am íod yr Esgab yn chwennych cael gwared o hono oddiar ei law, nid oedd ei gar- chaiiad mor galed, na allasai yu hawdd ddianC pe buasai yn cüwen- nych. Gwedi rhai misoedd, yr Esgob a'ì symudodd o Chepstow i Gastell Caef