Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 144] RIIAGFYR, 1833. [Cyf. XII. HANES BYR AM Y PARCH. G. HUMPHREY GRIFFITH, GYNT 0 BWLLIIELI, A GYMERWYD O NEWYDDIADUR A GYHOEDDIR YN NEW YORK. Y R oedd gwrthddrych yr hanes hwn, a'i deulu, wedi symud o'r wladhon i'r Americ yn y flwyddyn 1825; ac wedi treulio ych- ydig fisoedd i astudio yr Iaith Saesoneg, efe a ymunodd fel cenadwr â'r Unitcd Domestic Missionary Society yn Somers, New York, ao a fu yn llafurio yno yn tt'yddlon a def- nyddiol dros ainry w flynyddoedd. Ond yn gymaint a bod ei iechyd wedi mawr ddad- feilio drwy ddyfal ymroad i astudio, nes methu ateb i'w waith yn Somers, symudodd yn y flwyddyn 1832 yn mhellach i'r wlad, er mwyn adferiad iechyd; ond bu farw y gwr duwiol hwn yn mhen y ddau fis wedi ei symudiad yn Ypsilanti, Miehigan, ar y 13 o Awst 1832, yn 3(iain oed. Yr ydoedd wedi ennill enw a pharch mawr fel pregeth- wr ac fel Cristion yn mhlith pawb a'i hadwaeuai. Y mae'r ysgrifenydd yn dweyd am dano fel y canlyn,— Clywsom ef amryw weithiau yma gyda phlescr mawr yn pregethu, ac nis gall neb a'i gwrandawodd ef à theimladau iawnbyth unghofio eglurdeb y rhesymiadau, difrifol- deb yr agweddau, a'r ysbryd o grefydd ymarferol oedd yn amlwg yn ci bregethau. Gan adael ei deulu yn Detroit, cymmerth Mr, Griffith daith yn mhellach i'r wlad, gyda bwriad am fyned mor bell ag Uiinois, gau bregethu efengyl Crist; ond nid aeth yn mhellach na phentref Tecumseh, pan y canfu faes eang yn wyn i'r cynhauaf, ond heb un medelwr ynddo. Derbyniodd yma alwad uuol oddiwrth y cyfeillion i sefydlu yn euplith. I3u yr olwg amddifad a neill- duol a gafodd ar yr eglwys yn Tecumseh, yn nghyda thaerineb mawr y cyfeillion, yn foddion i beri idda roddi heibio ei fwriad o deithio, ac i roddi ei hunau i'r alwad a gafodd mor annisgwyliadwy. Un o'r rhai callaf a duwiolaf o'r cyfeill- ion yn eglwys Tecumseh a ddywed,—Er yr amser cyntaf yr ymddangosodd Mr. G. yn tiii plitb, fì'urfiwyd anwyldeb ac agosrwydd 45 calon rhyngom, yr hwn a gynnyddodd hyd ci farwolaeth. Fe'i croesawyd ar unwaith i'r teuluoedd fel un, yn yr hwn yr oedd pob calon yn profi llesâad, ac yn rhoddi ym- ddiried; ac yr oedd ei holl ymddygiad y fath ag a fyddai yn ennill iddo barch a serchawgrwydd cyfFrediuol. Mr. G. yn ddioed a bwrcasodd dyddyn yn agos i Tecumseh, ac a ddarparodd tuag at symudiad ei deulu yno ato. Ond ar ei daith fe'i goddiweddwyd gan afiechyd marwol yn nhỳ y Parch. Mr. Weed oYpsiì- auti, ac a fu farw yn mhen ychydig amser. Pregethwyd ar ei gladdedigacth gan y Parch. Mr. Beach o Ann Arbor. Pan fyn- egwyd wrtho gau ei feddyg fod amser ei ymddatodiad yn nesàu, atebodd gyda gwêu siriol, "Gwelwch ynte, Ddoctor, pa fodd y gall Cristion farw ! Mae dychryn yn dal yr anffyddiwr wrth farw—mae dychryn yn dal y gwrthgiliwr—mae dychryn yn dal y rhagrithiwr, ond nid oes dychryn i'r Crist- ion." Nid oedd cwmmwl ar ei feddwl drwy ei holl gystudd. Yr oedd yn olcu ddydd. Gallai ymorwcdd yn hollol ar gyfammod Duw yn Nghrist. Ei lefcrydd oeddynt,— Er fy mod i yn bechadur, mae Duw yu drugarog ; cr fy mod i yn aflan, y mae gwaed lesu Grist ei Fab ef yn glanhau oddiwrth bob pechod; er fy mod i yn newyuog, y mac yn mynydd Duw wledd o basgedigion breisio?ì. Wrth ei wraig y dywedodd, y gallasai gyflwyno ei hungyda phob hyder yn llaw ei Dduw, i'r hwn hcfyd "yr ydwyf yn eicb cyflwyno chwithau, fy anwyl wraig', a fy anwyl blant," gan ychwanegu, â'i ddwylaw yn mhleth, "A'r Arglwydd a'ch bendithio. Amen, acAmen." A thrachefn, gan ei hannog i ymdawelu, dywedodd wrthi, " Bydded i'ch enaid ddy- chwelyd i'w orphwysfa yn Nuw eich iachawdwriaeth, a daugoswch—mewn ym- ddygiad—y dichon y gras sydd yu fy nghynnal i yn yr ymdrech hwn, eich cynnal