Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 142] HYDREF, 1833. [Cyf. XII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. ROWLAND HILL, A.C. DYWEDIR ini yn yr Ysgrythyr santaidd, "Coft'adwriaeth y cyfiawn sydd feudigedig." Osgwir hyn, gyda golwg ar bob un sydd yn caru yr Arglwydd Iesu Grist mewn gwirionedd, y mae felly yn ddiammheu mewn modd tra rhagorol o berthynas i'r rhai hyny a ymdreiglant mewn cylchoedd uchel a phwysig yn yr eglwys, er mawr adle- wyrchiad gogoniant Awdwr pob rhinwedd, a Rhoddwr pob rhodd berffaith, ac a fu yn ofterynol i gyfleu llawer o ddaioni ysbrydol a naturiol i luoedd o'r hil ddynol. Geirwir- edd y gosodiad uchod yn anfynych a gyf- lawnwyd yn fwy uniongyrchol, mewn un person unigol, nag yn ngwrthddrych y cofiant canlynol; oblegid yr oedd efe yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glan, ac o ffydd, a thrwy ei offerynoliaeth pobl lawer a chwanegwyd i'r Arglwydd. Y Parch. Rowland Hill, oedd fab i Syr Rowland Hill o Hawkstone, yn swydd yr Amwythig. Ganwyd ef yn y ile uchod ar y 23ain o Awst 1744, a hanai ei hynafiaid o deulu a ddaethent ryw amser o Gymmru. Derbyniodd ei ddysg borenol yn Eton, ac wedi hyny yn Mhrifysgol Caergrawnt. Fcthau tragywyddol a ddechreuasant gael argraflìadau ar ei feddwl pan tuag un ar bymtheg oed, trwy gynghorion ac addysg, yu nghyda gwedd'iau taerion Syr Richard Hill, ei frawd hynaf. Dywedai y byddai arferol o roddi ei law yn fynych ar ei ysgwydd, a dweyd, " Rowland, oni edifar- hewch, a chredu yn Iesu Grist, chwi a fyddwch yn golledig yn dragywydd." Er y teimlai y pryd hwn yn lled ddwys oddi wrth garedigrwydd ei frawd, a'i ofal am dano, etto penderfynai y pryd hyny na byddai iddo ymadael â phlcserau ei ieuenc- tid, ac ymroddi i fywyd pruddaidd a phen- drwm, fel y tybiai ef fôd yn perthyn i grefydd. Eithr Duw, yr hwn nid yw ei feddyliau fel yr eiddom ni, ydoedd wedi meddwl fel arall, a thrwy ei fendith ar barhaus ymdrechiadau ei frawd, a darllen- 37 iad o bregethau y duwiol Esgob Beveridge, ennillwyd ei galon at yr lachawdwr, a'i ragfarn a symudwyd ymaith, fel y rhoddes ei hun yn gwbl i'r Arglwydd. Arosai coffadwriaeth hyfrydlawn o'r amser hynod hwn ar ei fcddwl gyda dwysder amelysder parhaus. O'r pryd hwnw allan ei dduwiol- deb a amlygid yn neilldnoi ac eglur, ac oblegid hyn nodid ef yn y Brifysgol gyda graddau o sarhad a dirmyg. Eithr cynnai- iodd ei gyineriad yn gyson ac addas i'w broftes tra bu yno, a thrwy astudrwydd cyrhaeddodd raddau helaeth o wybodaeth a dysg, fel y daeth yn Roegwr lled dda, ac yr anrhydeddwyd ef â'r graddau o Alhraw yn y Celfyddydau. Y tân santaidd a gyn- neuasid yn ei fynwes ni allesid ei gadw o dan gudd yn hir, fel y cynhyrfwyd ef i ymweledà'r cleifion, ac i ddechreu pregethu y pryd hwnw anchwiliadwy oiud Crist i'r bobl, yr hyn a ystyrid ynddo yn afreoîaidd, a'r hyn a'i dygodd i anghyfleusderau ac erlidigaeth oddiwrth y rhai a ddylasent gyf- arwyddo ei sel, a'i annog i fyned rhagddo yn ei waith. Yn mhen amser urddwyd ef i'r swydd ofleiriadol gan Esgob Bath a Wells, a threfnwyd ef i fod yn beriglor i blwyfyu bychan mewn lle pellenig yn swydd Somer- set; eithr ei sel frwdfrydus ni allesid ei chyfyngu o fewn y cyfryw le, ond efe a aeth allan o'r naill fan rrllal^ganbregethu Crist croeshoeledig yn mhob lle yr elai. Yu mhlith ei amddiffÿnwyr boreuol yr oedd y Parch. Aug. Toplady, a'r anfärwol Whit- field, a'r diweddaf a wnaeth ei gynllun mwyaf neillduol, gyda'r hwn y cydlafur- iodd am dair blynedd, hyd oni chymerwyd y gwas ffyddlon hwnw i'w orphwystà, pan yr ymddengys i'w fantell syrthio ar Eliseus ieuanc; canys meddylir fod mwy o'i ysbryd rhagorol ef i'w weled yn Mr. Hill na neb arall o'i gydoeswyr, a chymaint oedd mawredd ei anwyldeb i'w goffadwriaeth fel na ddywedai un amser, yr un gair am dano heb arwyddiou neillduol o barch iddo,—