Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 140.] AWST, 1833. [Cyf. XII. FY" FFORDD FY HUN. SYR,-------Y llinellau canlynol a argraftwyd dros Gymdeithas Traethodau Crefyddol üundain, a hoffwn yn fawr eu gweled yn y Dysgedydd. J. R. Llanbrynmair. IR ydoedd un bwthyn bychan, gerllaw Cotman Deen, adynodd fysylw; nid oedd arno ddim arwyddion allanol o draulddrud- fawr, na thebyg; nac hyd yn nod y cysuron bychain hyny y gall y tylodion eu caniatàu iddynt eu hunain gyda gweddeidd-dra. Ond yr oedd yno ardd fechan gryno o'i flaen, yr oedd y pinc, y blodeu cigliw, y teini, llyg- aid y dydd, a'r hen ŵr, i'w canfod yno; a rhosynau yn amgylchynu y drws, a benyw oedrauus yn eistedd o'i flaen yn nyddu. Yn fliuedig gan fy nhaith, ac yn foddhaol gan yr olwgddymunol oedd ar y lle, cyfod- ais glicied y llidiart bychan oedd yn arwain i'r ardd, ac wrth fyned at y fainc gerllaw y drws, gofyuais i'r hen wraig a ganiatâai hi imi eistedd a gorphwys ychydigfynydau. Hi a gydunodd yn ebrwydd, a dechreuasom ymddyddan.— " Mae genych le bychan, difyr, llonydd, i dreulio eich heu ddyddiau ynddo," ebai fi. Hi a adroddodd ei diolchgarwch i Dduw am dano, ac a chwanegodd, " Yn wir y mae yn fwy nag a haeddaisi, oblegid bfiin bleutyn ymladdgar yn erbyn y Duw hwnw a'm lmrweiniodd y blynyddoedd meithion hyn drwy yr anialwch." " Pa mor hen yd ych ?" gofynais. " Pa mor hen ydwyf ! yr wyf wedi cyr- haedd i ben ein hamser yma •, fy nerth sydd boen a blinder, fel y dywed y gwr doeth, oblegid yr wyf yn bedwar ugain mlwydd o oedran." "Ai ni ellwch chwi ddim dywedyd mai daioni a thrugaredd a'ch canlynodd holl ddyddiau eich bywyd ?" "Gallaf; y mae wedi'm canlyn, a myned o'm blaen i, wedi fy nghynnorthwyo a'm hannog, a'm dwyn i'r yrfa olaf hon. Yr oeddwn unwaith yn ieuanc, ac fel llawer, cerais fy ffordd fy hun; ond Duw, mewn trugaiedd, a'i gwnaeth yn chwerw i mi yn aml, ac os byddwn yu mynu ei chantyn ar ol teiialo y canlyniadau athrist, efe a'm 29 dygai yn ol mewnwylofainathosturiaethau. " Fy hen dad a'm mam dda a ddywedasant wrthyf yn and, y byddai yn rhaid i mi ddysgu darostwng fy ewyllys i ragluniaeth Duw; ond nid oeddwn yn sylwi ar eu cynghorion fel y dylaswn; yr oeddwn yn caru y byd a'i goegedd, ac ui byddwn byth yn teimlo fy hun mor foddhaol a phan y gwisgwn am danaf yn drwsiadus, ac yn mysg pobl ieuainc ysgafn a difeddwl fel fy hun. Gwylmabsant a ftair,a phob cyfleusdra o ddigrifwch y pentref, a gofleidiwn yn fawr. " Unwaith, yr wyf yn cofio, ar ddiwrnod têg o haf, yr oedd fy hen dad tlawd wedi myned at ei waith, a'm mam oedd ynnyddu fel y gwelwch finnau yn awr: diwruod y flàir oedd, ac yr oeddwn yn myned yno. Deuais i lawr y grisiau bychain yna, yn bur wych at y dydd gwyl.—Edrychodd fy mam arnaf, o'm pen i'm traed; meddyliais nad oedd hi ddim yu foddion i'm bwriad, ac etto yr oedd hi yn teitnlo balchder mam yu yr olwg ar ei phlcntyn. '•Ynawr, ebai hi, gwnewch feddwl i ba le yr ydych yn myned, a chyda phwy, a byddwch sicr o ddyfod adref cyn y nos. " Cyfarfyddais â'm canlynwyr, ac yn y ffair, bu i ddyn ieuanc ymuno à ni, yr hwn a adwaenai rai yn ein mysg. Yr oedd yn bur ofalus am danaf, a chyn ymadael deuais braidd i feddwl yn garuaidd am dano. " Parhaodd yn ei garwriaeth, a daeth yn aml i ymweled â mi. Ymddyddanodd fy rhieni a'm cyfeillion â mi, a rhybuddiasant fi yn ftyddlon o'r perygl oedd yn y gydnab- yddiaeth, ond yr oeddwn wedi penderfynu y mynwn gael fy ffordd fy hun; a mynais hi yn erbyn cynghor fy rhieni, llais cyd- wybod, a chymhelliadau synwyr cyftredin. Taclais fy het newydd âg ysnodenau, a phrynais ẁn newydd, ac aethym i'r eglwys i addo aurhydeddu ac ufuddhau i ddyn, yr hwu yu sicr yr oeddwn ya ei garu, g^au