Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Ruif. 135.] MAWRTH, 1833. [Cyp. XII. HANES BYWYD Y PARCH. MATTHEW HENRY. PARHAD O N RHIFYN DIWEDDiF. Pan oedd Matthew Henry yn nghylch deu- naw oed, cafodd ei roddi dau ofal y duwiol a'rdysgedig Thomas Doolittle, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cadw Athrofa yn lsliug- ìon, Lluudain. Aeth yno gyda châr a chyfaill anwyl iawn ganddo, Robert Bosier, dyn ieuane rhagorol, ag oedd wedi bod dros ryw ysbaidgyda Phylip Heury, yny Broad Oak, yn derbyn addysg. Ar y trydydd dydd, ar ol cyrhaeddyd Llundain, ysgrif- enodd Matthew lythyr hynod o garedig at ei chwiorydd, yn cynnwys hanes ei daith, a'r derbyniad a gawsai gan gyfeillion ei dad, a'r rhyfeddodau a welsai. Mae yn terfynu ei lythyr fel y canlyn:—<"A»wyl Chwiorydd; yr wyf brou o hyd yn meddwl am danoch, ac am fy nghartref; ond o'r braidd y meiddiaf feddwl am amser fy nychweliad, rhag iddo fy nghythruddo. Attolygaf na anghofiwch fi, uac yn eich meddyliau, nac yn eich gweddiau. Gan eich cyflwyno chwi oll i ofal ac amddinyn- iad yr Hollalluog Dduw, yr hwn sydd a'i freniniaeth ar bob peth, y gorphwys eich byth serchiadol frawd, Matthew Henry." Yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei fynediad i Lundain, bu farw Mr. Bosier, er niawr alar i Matthew Henry, ac amryw o gyfeillion ereill. Mr. Doolittle a bregeth- odd ei bregeth angladdawl, oddiwrth Iob 30. 23. " Canys mi a wn y dygi di fi i farw- olaeth." Nid ymddengys iddo ddywedyd Uaweram y marw, ond rhoddodd lawer o gyughorion difrifol iawn i'r rhai byw.------- "Hydded i'r ystyriaeth," eb y prègethwr, "y dygir chwi i farwolaeth, dynu ymaith eichserch oddiar y pethau sydd ar y ddaear. Prynwch yr amser. Gwnewch eich hedd- wch à Duw. Ni ddylech fyned i'ch gwely y nos mewn gelyniaeth â neb, ac a ewch chwi i'r bedd mewn gelyniaeth â Duw! Ymfoddlonwch â'r hyn sydd geuych. Myf- yriwch lawer ar eich diwedd. Byddwch ttior ddefnyddiol ag a alloch; pan ddyg-ir chwi i farwolaeth, bydd eich gwaith ar bén. Edrychwch am fod yn barod. Prif waith bywyd yw dysgu marw yn gysurus. Nid ein gwaith yma yw ceisio cyfoeth, anrhyd- edd, a phleserau, ond djsgu terfynu ein hoes mewn hedd â'r nefoedd. Mae pob corph marw yn bregeth, pob bedd yn addysgydd, a phob augladd yn araith i'n perswadio i ddysgu marw.1' Ond er i Matthew, fel hyn, golli ei gyf- aill a'i gâr mynwesol, cafodd yn yr Athrofa gyfeillion newyddion ag a ddaethant yn fuan iawn yn anwyl ganddo; yn neillduol Mr. Samuel Bury, yr hwn oedd fab i un o Anghydfìurfwyr swydd yr Amwythig. Dy- wed Mr. Bury, mewn Uythyr a ysgrifenodd at gyfaill ar ol marwolaeth Matthew Henry, " N id oeddwn uu ainser mor gysurus yn Athrofa Mr. Doolittle, ag yn nghyfeillach Matthew Henry. Yr oedd y fath berarogl crefyddol yn wastad ar ei ysbryd; yr oedd o dymher mor siriol, mor barod i gyfranu o drysorau ei wybodaeth, mor barod yn yr Ysgrythyrau, mor gyfaddas ei ddeisyfiadau mewn gweddi ar bob amgylchiad, fel yr oedd i mi yn gyfaill anwyl iawu, ac yr wyf yn caru y nefoedd yn well am fod Matthew Heury yno." Un arall ô gydfyfyrwyr Mr. Henly a ddywed, "Mae yn awr bymtheg ar hugain o fìynyddau, er pan y mwynheais y ded wyddwch o fyw yn yr un tŷ â Matthew Henry. Yr wyf yn cofio yn dda fod o honom yn nghylch deg ar hugain o gyd- fyfyrwyr, ac nid wyf yn cofio glywed yr un o honynt erioed yn dywedyd gair an- mharchus am Mr. Heury. Yr wyf yn sicr mai'r farn gyftredinol oedd, ei fod yn fon- eddwr ieuanc, mor felys ei dymher, mor foneddigaidd, mor addfwyn a chyweithas, ag un a allasai gael ei dderbyn i deulu, ac I yr oedd ei ymadawiad yn achps o alar cy- j íFredinol." j Ni wyddys pa faiut o amser y bu Mr. Heury gyda Mr. Doolittle. YrAthrofaa