Skip to main content

DYSGEDYDD CREFYDDOL, &c Rhif. 91.] GORPHENHAF, 1829. Cyf. VIII. COFIANT MR. EVAN ELLIS, O'R MAIN, SWYDD DREFALDWYN. Ganwyd Evan Ellis yn y Main, Swydd Drefaldwyn, Awst 14, 1804. Ei rieni ydynt yn perthyn i'r eglwys sydd dan ofal y Parch. John Jones, a'i dad Edward Ellis wedi bod dros am- ryw o flynyddoedd yn swyddog hardd a defnyddiol yn eu plith. Yr oedd ymddygiad Evan yn liynod o hardd a gweddus er yn blentyn, yn dra ufudd i'w rieni, ac yn nodedig o ofalus yn ei eiriau na ddywedai ond y gwir. Pan yn nghylch saith oed, bu dros ysbaid blwyddyn yn yr Ysgol Gymraeg dan ofal Mr. Lewis Pugh. Hoffai ei athraw yn fawr, a'r argraffiadau a dderbyniodd y pryd hwnw am bwys pethau tragy wyddol, ni lwyr ddilëwyd liyd nes y penderfynodd i roddi ei hun i'r Arglwydd a'i bobl. Wedi hyn bu Evan Ellis dros rai blynyddoedd yn yr Ysgol yn Meifod, ac yma yr oedd anwyldeb mawr rhyngddo â'i feistr; ac ar ol hyn bu yn agos i Hwyddyn gyda Mr. Jones o'r Main. Ar ol gadael ysgol Mr. Jones aeth i'r Keel at Mr. John Griffiths yn was, ac yn nghylch yr aniser hwn dechreuoiid ymblesern yn fawr yn yr Ysgol Sab- botliol, ac yn fuan daeth i'r gyfeiilach grefyddol, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Main yn y flwyddyn 1820, pan yn nghylch unarbymtheg oed. Yroedd yn eglur iawn i'w gyfeillion ei fod yr amser hwn, yn ol gorchymyn Ie^u Grist, yn myned yn fynych i'w ystafell i wedd'ío ar ei Dad yn y dirgel, a'i Dad yr hwn a wel yn y dirgel yd- oedd yn talu iddo yn yr amlwg. Yn yr haf, 1822, bu dros ysbaid tri mis yn yr ysgol yn y Wernlas, yn mhlwyf Llanrhaiadrmochnant. Yma, megis yn yr ysgolion a fuasai o'r blaen, ym- roddodd i ddysgu â'i holl egni; ac oddi- yno yn yr Hydref canlynol aeth i Benybont i gadw ysgol, a bu yno yn ddiwyd iawn a llwyddiannus gyda'r gwaith yma yn nghylch pum mlynedd. Mr. Thomas Üinaston, yr hwn sydd yn aelcd o'r eglwys yn Mhenybont, dan ofal y Pareh. Morris Hughes, yr hwn sydd yn pregethu ychydig yn eu plith, a ddywed raewn llythyr am Evan Ellis fel y canlyn: "Hydref 1, 1822, y daeth Evan Ellis i'r gymniydogaeth hon i gadw ysgol, ac nid ofer fu ei waith. Mae llawer o ffrwyth ei lafur i'w weled yn ein plith hyd heddyw. Yr oedd yn meddiannu llawer o gymhwysiadau i fod yn ysgolfeistr. Yroeddyn ysgrif- enydd rhagorol, ac yn cael ei gyfrif yn un cyfarwydd iawn mewn rhifydd- iaeth. Ei edryehiad ydoedd yn dra syml a difrifol, ac o ran ei dymher naturiol, yr oedd yn hynod oamyn- eddgar a thirion. Y plant a'u rhieni oeddynt yn ei garu yn fawr. Yroedd yn ofalus iawn rhag colli dim o'i amser o'r ysgol. Pan fyddai yn myned weithiau i'r Main i ymweled â'i rieni, yn nghylch deg miildiroffordd, bydd- ai yn sicr o fod gyda'r ysgol yn nghylch 8 o'r gloch boreu Dydd Llun. Dywedai yn fynych nad oedd ysgol o fawr werth oni fyddai y meistr yn ddiwyd ac yn ymdrechgar gyda hi. Bu yn ddefnyddiol iawn yn eiu plith 2 B