Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD CREFYDDOL, GWLADOL, PERORIAETHOIj, &c. &c. &c. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1828. [Ctf. VII. B Y W YD A MERTHYRDOD LAWRENCE SAUNDERS. LaWRENCE SAUNDERS ydoedd fab i foncddwr cyfoethog yn Swydd Rhydychen. Cafodd ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn un o Golegau Caergrawnt. O ran diwydrwydd gyda'i lyfrau yr oedd yn dra nodedig, ac mewn ymarfcriad duwiol yn dra disgiair, fel dinas ar fryn na ellid ei chuddio. Cymaint oedd ei gynydd, fel y daeth efe mewn byr amser i fod yn hyfforddwr yabrydol i ereill, acyn ddiddanwr y rhai ag oeddynt niewn gorthrymder. Yn nechreuad teyrnaaiad y Brenin duwiol Edward, ya y flwyddyn 1547, cafodd ei urddo yn eglwyswr, a chaf- odd ei osod yn ddarllenydd duwinydd- iaeth yn Ysgoldŷ Fotheringham, Ue y bu yn offerynol i argyhoeddi llawer o bechaduriaid. ac i adciladu y rhai gwir dduwiol. Ond yn lled fuan daeth di freiniad a dybeniad ar yr ysgoldŷ hwnw, a Mr. Saunders a osodwyd yn bregethwr yn eglwys gadeiriol Lich- field, a bu ei weinidogaeth yn dra llwyddiannus hyd nes ydoedd ei elyn- ion yn gorfod addef ei fod yn ẃr dysg- edig a duwiol. Ar ol talm o amser cafodd ei osod mewn bywioliaeth eg- lwysig yn Church-langion, yn Swydc Leicester, lle bu yn cyflawni ei weini- dogaeth yn ftyddlon a llwyddiannus. Syinudodd oddiyno i eglwys AU-hal- lows, yn Llundain, ac ar ol aros yno ychydig, dychwelodd yn ol i'r wlad, gan fwriadu cymeryd cenad ei blwyfolion, a dychwelyd i gartrefu yn Llundain. Ond erbyn hyn, yr oedd oes y brenin wedi ei therfynu, y rhòd wedi troi, a'r wlad mewn terfysg jo, nghylch gosodiad Mair ar orsedd y deyrnas. Yn y terfysg yma daeth Mr. Saun- ders i Northhampton, a phregethodd yno. Ni chyffyrddodd âg achosiou gwladol yn ei bregeth, ond yn ol ei gydwybod efe a ddygodd dystiolaeth ffyddlon yn erbyn yr athrawiaetli babaidd, a chyfeüiornadau dinystriol annghrist. Gwÿr y frenhines, y rhai oeddynt yn gwrando, ni fedrent gyd- uno â hyn, na'i oddef. Hwy a'i cad- wasant dros dro yn eu mysg yn garch- arwr, ond trwy ddeisyfiad ei berthyn- asau, a chan nad oedd un gyfraith wedi ei thori ganddo, hwy a'i goUyng- asant yn rhydd. Wedi hyn yn rhag- weled fod dyddian drwg gerllaw, efe a ymroddodd mewn ffyddlondeb î wneuthur y goreu o'i amser, Ystyr- iodd os rhoddai un o'i ddau blwyf i Ŵny» y deuai yn ebrwydd i feddiant Pabydd, ac yn ganlynol ymroddodd i bregethu hyd y gallai yn y ddau, a budros ysbaid dau fis, Oen dri, yn dyfal dramwy o'r naill i'r HaU, gan ymdrechu i gadarnhauy gweiniaid, ac arfogi ei wrandawwyr yn erbyn gan athrawiaeth. Yn fuan daeth allan orchymyn oddiwrth y frenhines, yn galw ar ei deiliaid oll gydffurfio a holl ddefodau eglwys Rhufain. Ond Mr. Saunders a aeth yn mlaen yn ei weinidogaeth fel cynt, hyd oni chododd rhai ÿn ei blwyf i'w wrth- sefyll a'i atal trwy drais a gorfod. Ar 2 Y