Skip to main content

DYSGEDYDD CREFYDDOL, GWLADOL, PERORIAETHOIj, &C. &C. &c. Rhif. 1.] IONAWR, 1828. [Cyf. VII. COFIANT MES. MARY ANNE TIBBOT, O LANFYLLIN. MRS. TIBBOTydoeddforch Robert a Mary Anne Jones, 0 Lanfyllin, Swydd Drefaldwyn. Pan yn blentyn yr oedd ei holl ymddygiadau mor fyw- iog, mor gall, ac mor weddus, fel ag yr ydoedd yn tynu «ylw ei hoü gydna- bod. Cymerodd ei dysg yn rhwydd íawn, a phan nad oedd oncl pymtheg oed, daeth i fod yn gynorthwy mawr i'w rh'íeni yn eu masnachdŷ. Ym- ddangosai y pryd hwnw ei bod yn meddiannu cyneddfau naturiol cryfach na'r cyffredin. Pan yn nghylch ugain oed,, gwelodd Duw yn dda ei dwyn hi i adnabyddiaeth o'i chyflwr euog a tliruenus fel pechadur, ac o'r iechyd- wriaeth ag sydd yn Iesu Grist, dan weinidogaeth y gwr duwiol hwnw, Mr. Jenkiu Lewis, yr hwn ydoedd y pryd hwnw yn wehndog y gynulleidfa o Ymneillduwyr yn. Llanfyllin; yr hwn a ymddygodd tuag ati, tra parhaodd ei ©es, fel ei thad yn yr efengyl. Der- byniwyd hi yn aelod egjwysig, Ionawr 29, 179G, a chafodd y fraint, ag yr oedd y brenin Dafydd yn benaf yn ei dymuno^ sef trigo yn nhŷ Dduw holl ddyddiau ei bywyd, i edrych ar bryd- ferthwch yr Arglwydd, ac i yniofyn yn ei deml. Yn nechreuad ei gyrfa Gristionogol cyfarfu â llawer o wrthwynebiadau; ond yn wyneb y rhai hyn hi a brofodd wirionedd yr addewid, <( Digou i ti fy ngras i." Ni lwyddodd un offeryn a luniwyd yn ci herbyn, ac ni allodd yr ymosodiadau a fu arni, pa un byiiag ai ©ddiwrth uwch-radd neu îs-radd, wrth- \vyqebu y doetliiueb a'i ys-bryd, drwy yr hwn yr oedd yn gadarn 0 blaid yr Arglwydd a'i aclios. Ei ffyddlondeb a'i liawyddfryd yn ngwaith ei Har- glwydd oeddynt o'r fath, ag a ddang- osent yn eglur el bod wedi cael deall da am ei chyflwr truenus ei hunan, a gogoniant Ciist, a'r iechydwriaeth fawr sydd ynddo. Yr oedd hefyd wedi cael ei chynysgaeddu â doniau helaeth mewn gweddi, fel ag y byddai yn mynych gynorthwyo i gynal cyfarfod- ydd gweddi yn y dref ac yn y wlad. Yr oedd y fath gymhorth y pryd hwnw yn angenrheidiol iawn, am nad oedd ond ychydig 0 wrrywod yn perthyn i'r eglwys yn gymhwys i wedd'ío yn gy- hoeddus. Yr oedd ganddi lais rhagor- ol, ac ymhyfrydai yn fawr yn y rhan hòno 0 addoliad, sefcanu mawl. Yr oedd yn ofalus neillduol i gynal addol- iad teuluaidd, yr hwn a gyflawnai ei hun, gyda phriodoldeb neillduol, os na fyddai un mab yn bresennol yn gymhwys i gyflawni. y gwaith. Yr oedd argraff ddofn iaw n ar ei chalon fod iechydwriaeth pechadur yn gwbl 0 ras, ac ymdrechai yn fawr drwy ei hoes i gyraedd helaethach adnabydd- iaeth o wirioneddau yr efengyl, ac o waith yr Ysbryd Glàn ar ei henaid. Meddyliwn na fyddai rlianau 0 rai o'i llythyrau, wedi eu çyfieithu o'r Saesonaeg, yn annerbyniol gan ddar- llenwyr proíiadol. Yr achlysur o'i Uythyrau oedd yn nodedig.—Ychydig llynyddau ar ol ei derbyn yn aelod eglwysig, dygwyddodd iddi fyned i Lundain, a chyfarfu yn ddamweiniol â gwr a gwraia dduwiol, ag oeddynt A 2