Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Rhii». 2.] CHWEFROR, 1826. [CtP. V. COFIANT PARCH. DANIEL ROWLANDS O LANGEITHO, SIR ABERTEIFI. Y DYN enwog hwn oedd fab i weinidog cymeradwy, yr hwn oedd beriglor Llangeitho, mewn amser pan oedd tywyllwch mawr yn gorchuddio yn mron bob rhan o Gymru. Yr oedd cymeriad y tad, er iddo gael ei ddarlunio mewn amrywiol ffyrdd, mewn perthynas i grefydd, yn ym- ddangos ei fod wedi ei benderfynu yn ddedwyddol, o'r hyn lleiaf yn yr rhan ddiweddaf o'i fywyd. Gwelodd y pryd hyny yr angenrheidrwydd o wir dduwioldeb, iddo ei hun ac i ereill. Cyflwr ei gydwladwyr a gynhyrfodd ei dosturi, ac a'i harweiniodd tu hwut i'r cylch hyny o ymegniad, y rhai y mae rheolan sefydliad eglwysig wedi eu rhagnodi. I ba helaethrwydd neu lwyddiant y dygwyd ei orchwyJion teithiol ef, ni ellir yn awr, efallai, ei sicrhau; ond o herwydd ei ymdrech- iadau i wneuthur daioni yn y ffordd hon, dywedir iddo gael colled o dderchafiad. Dau o'i feibion, John a Daniel, a ddygwyd i fynn i'r weinidogaeth yn yr eglwys sefydledig. Mr. John Row- landä a ddarlnnir yn ddyn o feddwl cryfa deall parod, ond yn anffodiog, yr oedd yn ddiffygiol o wir dduwiol- deb. Am hyny bu ei fywyd yn achos O gymaint goíid i'w dad, ac y bu ei faiwolaŶth alarus. Efe a foddodd wrth ymdrochi yn y mor, ac felly torwyd ef i lawr yn nghanol ei ddyddiau, yn amgylchedig gan y disgwyliadau gwenieithus, pa rai yr oedd y byd yn elgynnyrchn i'w feddylian twyllodru». Mr. Daniel Rowlands, testyn y cofiant hwn, a anwyd gerìiaw Llan- geitho, yn y flwyddyn 1713. Gwcdi derbyn ei ddysg yn Ysgoldỳllythyreg gyffredinol yn Hereford, a'i urddo ; gwasanaethodd yn beriglor mewa rhyw ran o Sir Gaerfyrddin. Dywed- ir iddo gael yno ei barehu yn fawp gan ei blwyfoiion, a llaaws o honynt a gynnullent dan ei weinidogaeth. Hoffasant ei ddawn fel pregethwr, ond gafaelasant yn fwy ynddo o berwydd ei dymher addfwyn, a chy- wirdeb ei ymarweddiad moesol. Ond o herwydd achosion anhyspys i'r ysgrifenydd ni aroîodd yn hir yn y sefyllfa hon. Ar farwolaeth ei dad, yr hwn oedd heb awdurdod digonol i ddal y bersonaeth yn y tenln, Mr. Rowlandsa wasanaethodd fel Periglor yn Llangeitho, yn mhi le y trenliodd y gweddill o'i fywyd. Efe a briododd Elin, merch John Davies o Gefn-car- llyges, o'r hon y cafodd fab, y Parch. N. Rowlands, A. C. yr hwn sydd eto yn fyw, ac a fu am lawer o flynydd- oedd yn bregethwr poblogaidd. Dros ryw amser gwedi i Mr. Rowland*