Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD C R E F Y D D O L. _^__________________ • t ______________________ Rhif. 10.] HYDREF, 1823- Cyf. II. COFIANT FFW'FD ^ MARWOLAETH Y Parchedig JAMES OWEN, Gynt 9 Groesoswallt. Ganwyu Mr. James Owen, yn y Bryn, yn mhlwyf Abemant, yn agos i Gaerfyrddin, Tach. 1, 1654. Enw ei dad oedd John Owen. Bu iddo saith o blant, y rhai a droisant ailan oll yn Yraneillduwyr, er mawr syndod yn y dyddian hyny, pan yr oedd yr Ym~ neillduwyr yn caei eu herlid yn greu- Ion iawn. Gwedi bod Mr. Owen mewn ysgolion cartrefol dros ryw amser, danfonwyd ef i'r Ysgol i Gaerfyrddin, at un Mr. Picton, ac oddiyno aeth i'r ysgol rad berthynol i'rdref hono dan olygiaeth Mr. David Philips, ysgolhaig ardderchog iawn. Oddiamgylch 13 oed aeth i wrando ar un o'rYmneillduwyr, athany bregeth hono cyffyrddodd Duw â'i galon, fel ag y daeth dan ofnau mawrion yn nghylch ei gyflwr tragywyddol. Tan ei argyhoeddiad cyntaf, gorweddai noswcithiau cyfain ar y ddaear, yn Hefain am drugaredd, a maddeuant, ond cyn hir gwasgarwyd y cymylau, a'i feddwl trallodus a adfywiwyd gan belydr Haul y Cyfiawnder. Tawel- wch melus o eiddo yr Ysbryd Glan a ganiynodd y dymestl ddychrynadwy. Wedi myned trwy yr ysgolion cyffre- din, aeth i'r ysgol enwog ag oedd dan olygiaeth y Parch. Samuel Jones, o Frynljywarch yn Sir Forganwg, ys- goihaig enwog, ac o ddtiwioldeb neillduol, Yr oedd diwydrwydd Mr. Owen mor fawr yn yr ysgol hon, fel ag yr oeddyn cael ei alw yn Astuditot diflino. ? üechreuodd ar y gorchwyl pwysig o bregethu yn ieuanc iawn, a phan ..oedd yr erledigaeth yn erbyn yr Ym- neilldnwyr yn boeth neilldnoí; eto yr oedd yn meddu calon wrol i fyned rhagddo. Y Ile y dechreuodd Mr- Oweirbregethu oedd Abertawe, fel cynnorthwy wr i Mr. Stephen Hughes. Aflonyddwyd ef yn fuan oblegid ei annghydffurfiad, ac er ei fod mewn perygl gwastadol o gael ei garcharu, pell iawn ydoedd oddiwrth gywilydd oblegid gwaith ei Feistr mawr. Derbyuiodd waboddiad gan y Parch. Henry Morriá, i symud i Ogledd Cymrn. Ond yr oedd yn boddloni Mr. Hughes mor dda fel ag yr oedd yn anhawdd jawn ganddo ganiatau iddo fyned ymaith. Ar yr achlysur yma dyweë Mr. Hughes am dano, ei fod yn wr ieuanc gwerthfawr a duwiol, o ymarweddiad santaidd a nefolaidd, ac o ddawn rhagorol i bre- gethu. Symudodd o Abertawe i Sir Gaernarfon, He bu ei weinidogaeth ychydig araser yn dderbyniol iawn ; ond cafodd ei ddal am bregethu, ac ar ol bod yn y carchar yno oddeutu naw mis, danfonwyd ef o hyd nos i Fron y Clýdwr, yn Sir Feirionydd, i dý y Parchedig Hngh Owen, gwr rhagorol mewn rhiuwedd a duwioldeb. Yn mis Tachwedd, 1676, cafodd 5 O