Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD CREFYDDOL. ItHlF. 5.] MAI, 1823. [Cyf. II. HANES BYWYD DIWEDDAR BARCHEDIG DOCTOR WILLIAMS, Athraw Duwinyddol,Athr9fa'rAnymddibynwyr, yn Rotherhamt$»tjddGaer-Efraw$ (Parhad o tu dal. 102.) Ymsefyolodd yn Mirmingham, ychydig yn oly terfysg gwaradwyddus a gymerodd le yn y dref hono; a chafodd feddyliau y bobl mor lawn o helynt gwladol, ag i beri gofid, nid bychan, idd ei feddwl; ac nid ydoedd, ychwaith, mor gysurus, mewu ystyrion eraill, ag yr oedd wedi disgwyl. I'r perwyl canlynol yr ysgrifena am dano, y Parchedig John Roberts, o Lanbryn- mair, yr hwn a fuasai dan ei ofal yn Ngroesoswallt; "Yr wyf yn credu, mai yr hyn a'icymellodd i adaelCroes- oswallt, ydoedd y meddwl y gallai, trwy fod yn rhydd oddiwrth ei swydd fel Athraw,gyflwyno ychwaneg odd ei amser i fyfyrio, ac i ysgrifenu ; ond, yn hyu, ni chafodd ei ddisgwyliadau eu gwirio. Aethum i Firmingham, yn neclireu y flwyddyn 1795,a threuliais rai dyddiau yn ei gyfeillach. Yr oedd yn ymddangos yn atiirist neillduol, mewn cydmariaeth i'r hyn fyddai yu arfer bod, pan yn mhlith y myfyrwyr; ac, yn wir, dywedodd wrthyf, ei fod yn teimlo eu colled, yn fawr; gan y bydd- ai yr hyn a defiid allan, yn ei ymddi- ddan â hwynt, o fudd neillduol iddo. Yr oeddwn yn hollol o'r farn, na chy- merodd efe gain cywir, yn ei waith yn yniadael a Chroesoswallt, a chredu yr wyf iddo wneuthur llai, yn ysbaid y pedair blynedd y bu yn Mirmingham, nag y gwnaeth yn ysbaid urrrhyw bedair bJytiedd arall o'i oes." Yn ei sefyllfa presenol,erhyny, pëll ydoedd o fod yn segur. Cyhoeddoedd gyn- araith, traddodedig ar neillduad y Parch. Daniel Fleming, i'r weinidog- aeth, yn Nuneaton, Awst 6 1793. O gylch y pryd byn, yr oedd cyflwr y byd Paganaidd yn gwasgu, yn drwm, ar ei feddwl, a byddai yn hynod egniol, er dyfeisio y mesurau hyny oeddynt de- bycaf o lwyddo yn y gwaith o daenu yr efengyl; a chan iddo gael ei osod i ysgrifenu Uythyr cylchawl oddiwrth y gweinidogion cynnulledig yn y Ue crybwylledig uchod at eglwysi cym- deithasol swydd Warwick, Uwyddodd â hwynt i ychwanegu ol-ysgrifen, an- nerchedig at gymdeithasau cynnulU eidfaol gweinidogion sw-yddau eraiìl Lloegr a Chymru; gan gymeradwyo, yn mhlith pethau eraill, anfoniad Cenhadau i blith y Paganiaid. Nid rhyfedd, gan hyny, ei fod yn fawr ei gymeriad o Gymdeithas Genhadawl Caerludd, pan ei scfydlwyd yn 1795 ; a pharhaodd i amlygu hyny, hjd ddi- wedd ei oes. Traddododd ofal-araíth i'r Cenhadon cyntaf a anfonwyd £ Ynysoedd Mor y Dehau, Gorphenaf 28, 179C; ac efe hefyd ydoedd un o bregethwyr yrunfed cyfarfod ar ddeg cytfrediuol odd y Gymdeithas yn 1S05. Yn nghyflawniad ei swydd weinld- ogaethol yn Miriningham, cafodd y Dr. ei alw i ymweled a dyn claf, yr