Skip to main content

DYSGEDYDD CREFYDDOL. Rhif. 3.] MAWRTH, 1823. [Cyf. II. HANES BYẄYJ) DOCTOR JOHN OWEN. (Parhad o Ynnillodd ei ysgrifeniadan godid- og sylw a pharch rhai o'r gwyr enwoc- af yn y wladwriaeth a'r eglwys; a byddent yn yrahyfrydu, yn fawr, ym- gyfeillachu àg ef. Gallai rifo yn mhlith ei gyfeillion, Iarìl Orreri, Iarll Mon,yr Arglwydd Willoughby o Bar- ham, yr Arglwydd Wharton, yr Ar- glwydd Berkley,a Syr JohnTrevor,un o Gofiadurou uchelaf y Deyrnas. Yr oedd hydyn nody breninSiarls, a Dug Caerefrawg yn lletya parch neilldnol iddo. Pan ydoedd yn TunLíridge, danfonodd y Dug am dano, a bu hir ymddiddan rhyngddynt eill dau ar y pwnc o ymneillduaeth. Pao ddych- welodd i Lundain anrhydeddwyd ef â chyfrinach y brenin, a buont yn ymddiddan dros ysbaid dwy awr mewn pcrthynas i Ymneillduaeth a rhyddid cydwybod. Dywedoddy brenin wrtho fod iddo ganiatad i ddyfod idd ei wyddfod pryd y mynai, a sicrhaodd y gallai hyderu ar ei ewyllys da a'i dder- byniad. Ardystioddy brenin, hefyd ar yr un pryd, ei fod yn dclmladwy o'r drwg mawr a wnaethai i'r Ym- neillduwyr yn ddiweddar, gan gadarn- hau ei fod o blaid rhyddid cydwybod, ac fcl prawf o hyny, rhoddodd i'r Dr. Öwen ddeg can gini er cynnorthwyo ý rhai a ddioddefasent oddiwrth y mesurau llymdost, a'r cyfreithiau creu- lawu yn erbýn AnghydfíÜrfiad. Yr tu dal. 39.) oedd gan Dr. Owen amryw gyfeiílioii yn mhlith yr Eglwyswyr urddasol, yri enwedig y Dr. Wiíkins, Esgob Caer- Ileon, a'r Dr. Barlow, Esgob Lincoln, yr hwri hefyd a fuasai gyntyn Athraw iddo. Hysbys yw fod Dr. Owen wedi gwneuthur ymgais, trwy gyfrwng ý Dr. Barlow, er rhyddhau yr enwog1 John Bunyan, yr hwn ydoedd wedi ei garèharu o herwydd èi Ymneillduaeth. Pan dderbyniodd yrEsgob lythyr oddi- wrtho, ar yr achos, dywedodd wrth ý traddodydd, Fod ganddo barch neill^ duol i'r Dr. Owen, ac nad oedd dim yn ei állu na fyddai yn barod idd ei wneuthur iddo. Yn hyn, er hyny, prin y bu efe cystal a'i air, a bu rhaid cael gorchymyn pennodol oddiwrth yr Arglwydd Canghellwr, i'r diben i ryddhau Awdwr Taith y Pererin, o'i garchar tywyll. Gofýnodd yr un Es- gob i'r Dr. unwaìth, ' Beth a allai fod ganddo yn erbyn dull addoliad Eglwys Loegr, trwy ffurf-weddi. Mewn cau- lyniad i atebiad Dr. Oẃen, yr Esgobi a aeth yn fud, a chan graffu arno dy- wedodd y Dr. • Peidiwch ag ateb yrí fyrbŵyll, eithr cymerwch amser i hyny nes y cyfarfyddom nesaf, yr Tiyn ni chymerodd le byth drachefn. Nid rhyfedd fod cyfansoddiad y fatli un oedd mor weithgar ac egniol, yn éadfeilio, bellach, dan bwys aml wen- didau. O ganjyniad idd ei ddiwyd-