Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD C R E F Y D D O L. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1823. [Cyf. II. HANES BYWYJ) DOCTOR JOHN OWEN. Cafodd y gwr enwög hwn, Tyw- ysog Dnwinyddion yr oesocdd di- weddaraf, ei eni yn Stadham, swydd Rhydychen, yn y flwyddyn 1616. O waedoiiaeth uchelryw y Cymryyryd- oedd yn ddisgynedig. Ail fab ydoedd i Henry Owen, mab ienaf Umphrey Owen, a Susan ei wraig, merch Gru- fTydd, pummed mab Lewis Owen, Yswain, o'r Llwyn, gerlîawDoIg-cIlau, swydd Meirion. Yr oedd Lewis Ow- en yn hanedig oddiwrth Llywelyn ap Gwrgan, Tywysog Morganwg, ac Arglwydd Caerdydd; y teulu diwedd- af oll o bum llwyth breiniol Cymru. Amcanwyd Jolin Owen i ragori mewn gogoniant disgleirwych ar ei holl hyn- afiaid anrhydeddus, ac i fod yn uno'r ser goleuaf a dywynasant erioed yn ffurfafcn yr eglwys. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth Iythyr- egawl yn benaf danarweinyddiad Mr. Edward Sylvester, yn mhlwyf Holl- Saint Rhydychen. Cynnydd anarfer- ol mewn dysg, a barodd iddo gael derbyniad i'r Brif Athrofa pan nid oedd ond deuddeg mlwydd oed, ac yn Ngholcg y Frenhincs dan yr enwog Doctor Barlow yr oedd yn myfyrio. Tra yn yr Athrofa dilynodd ei astud fyfyrdodau gyda diwydrwydd an- nghredadwy, fel nad oedd yn cat/iatàu, o hun i'w amrantau, oddigerth pedair awr y nos, dros amryw flynyddau. Bu hyn yn achos iddo feddiannu try» sorau annghyffredin o wybodŵeth a dysg. Er hyn oll ei unig amcan, y pryd hyny, megis y cyfaddefodd ar ol hyny, gyda galar, oedd ymgodi i ryw sefyllfa anrhydeddus, yn yr eglwys neu y wladwriaeth ; nid oedd waeth ganddo pa un. Cawsai ynnill ei am- can, yn ddiddadl, oni buasai i Dduw pob gras ei ragflaenu, a dangos iddo yr ynfydrwydd, a'r pechod mawr o geisio ei og-oniant ei hun. Galwodd yr Arglwydd ef oddiwrth ei rediad rhyfygus, ac a'i gwnaeth yn ewyllys- gar i gyflwyno ei hunan a'i holl ddon- iau nerthawl i wasanaeth ei Dduw. O herwydd maintioli teulu ei dad, nis gallai wneuthur llawer er ei gyn- nal yn yr Athrofa, ond cafodd ei anghenion eu gwneuthur i fynu yn helaeth gan ewythr iddo, brawd ei dad, gwr bonheddig o berchen etif- eddiaeth dda yn Nghymru; yr hwn hefyd, am nad oedd ganddo blant ei hun, oedd mewn bwriad i wneyd ei Nai yn etifedd. Yn y flwyddyn 1635, pan nid oedd ond pedair ar bymtheg oed, nrddwyd ef yn Athraw yn y Cel- fyddydau, ac arhosodd yn yr Athrofa ddwy flynedd yn hwy. O gylch y pryd hwn yr oedd Dr. Lared, Arch- esgob Caergaint a Changellwr Rhyd- ychen, yn cymmell yr Athrofa i gydymffurfio âg amryw ddafodan