Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

D YSGED YD D CREFYDDOL. Rhif. 2.] CHWEFROR 1, 1822. [Cyf. I. HANES BYWYD, DIWEDDAR BARCH. LEWISREES; Yr hwn a fu umcaith yn Weinidog yr Efengyl yn Llanbrynmair, ac wedi hyny yn Abertawe. (Parhad o tu dal. 9.) BfR-HEESoedd ycyntafo bawb, heblaw yn yr eglwys sef- ydledig, a fu yn pregethu yn sir Fòn. Clywais yr hanes fel y canlyn: Yr oedd tri brawd yn yr ynys, nad oeddynt yn cael boddlonrwydd yn nghrefydd y wlad—ond nis gwyddent ara un grefydd arall. Daeth un William Pritchard, aelod o eg- lwys yr ymneillduwyr yn Mhwil- heîi, i fyw i'r ynys. Yr oedd y dyn hwn yn nodedig o ran ei dduwioldeb, ac yn barchus ei amgylchiadau yn y byd. Cly- wodd y tri brawd fod gan William Pritchard ryw grefydd wahanol i grefydd ereill.—Ym- ofynasant am gyfle i ymddyddan ag ef, a chawsant lawer o fodd- lonrwydd yn ei gyfeillach. William Pritchard a'r tri brawd a ddechreuasant gyfarfod a'ugil- ydd ar y Sabbathau, i ddarllen gair Duw ac i weddio. Yn mhen jchydig rhoddasant an- nogaeth taer iawn i Mr. Rees ddyfod atynt ar ryw Sabbath i gynyg pregethu iddynt. Aeth yntef ar eu d^muniad, ac ych- ydig o gyfeillion o Bwllheli gydag ef. Ond yr oedd torf o ddynion wedi ymgasglu gyda llawn fwriad i labuddio y preg- ethwr. Rhoddodd Mr. Rees air o hymn allan i ganu, sef, " Dysgwyliaf o'r draw." &c. mynyddoedd Tybiodd yr erlidwyr fod byddin arfog ar ddyfod o fynyddoedd Caernarfon i bleidio y pregeth- wr— hyn a'u dychrynodd i'r fath raddau, fel naddarfu iddynt wneuthur dim aflonyddwcb, tra buwyd yn canu. Wedi canu aeth Mr. Rees i weddi—ac ar y weddi dy^wyd eu meddyiiau dan y fath argraffiadau dwysion a sobr, fel ag yr oeddynt yn debyg i ddynion wedi colli eu dwylaw—yn ganlynol cafodd Mr. Ress lonyddwch a thang- nefedd i bregethu faint a fynai; ac y mae lle i feddwl fod argrafí parhaus wedi cael ei wneuthur ar feddyliau rhai o honynt, ac i'r Argíwydd agor eu calon î ddal ar y pethau a lefarwyd. Ond er iddo gael llonyddwch yn y boreu, y rhai nad oedd y gair wedi cael nemawr o effaitb, arnynt, oeddynt wedi ymgynddeiriogi yn fwy erbyn y prydnawn, ac eraill o'r un dymer