Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íe EUPRAWN WESLEYAIDD. í RHAGFYE , 1896. - -' ------- .... -.> COFIANT ME EICHAED OWEN, TY NEWYDD, BEONTECWYN. GA.N Y PABCH. BOWLA.ND BOWLANDS. (Parhad tudal. 409.) * ™?E Owen oedd y prif symudydd i gael capel yn Brontecwym■, Gosododd ei fryd ar hyn flynyddau cyn iddo ddod ya fíaith. Vr oedd amryw o deuluoedd Wesleyaidd yn byw yn y gyinydog- aeth, a'r ffordd yn bell i Soar, ac ofnai y buasai Wesleyaeth yn eu çolii; yn y man os na wneid darpariaeth ar eu cyfer. Yn cael ei gymhell gan; yr argyhoeddiad o hyn, dygodd y mater o fiaen cyfeiliion Soar a chyf- arfod Chwarterol y gylchdaith, a chafwyd nad oedd addfedrwydd ar j. pryd i gefnogi y symudiad—rhai yn ofni i'r ymgynieriad droi allan yn aflwyddianus, ac ereill yn ofni iddo ddyweyd yn anffafriol ar gynuil- eidfa Soar. Yr oedd cydgordiad trwyadi yn amcanion yr oli, mewn, barn o berthynas i'r moddion goraf i'w sicrhau y gwahaniaethent yn unig. Llwyddiant crefydd a Wesleyaeth yn yr ardai oedd mewn golwg: gan y naill a'r llall. Modd bynag, datiodd Mr Owen i ddadleu dros íyr . hyn a ystyriai ef yn hawliau ardal Brontecwyn nes llwyddo i eniil arweinwyr Soar a'r gylchdaith i gydsynio â'i gais. Wedi cael ,y caniatâd yma taflodd ei holl egni i'r symudiad ; gweithiodd ef ac ereill. yn ddyfal ac effeithiol mewn amrywiol ffyrdd o'i biaid, ac ni buwyd yn. hìr cyn gosod y capel i fyny. Wedi cael hyn, ei bryder nesaf oedd ôL gael i amgyíchiadau i dderbyn y loan a'r grant. Methwyd cyraedd hyn am rai blynyddau. Pan oedd y Parch. Isaiah Jones yn Talsarnau^i penderfynwyd symud i gael sale of worh, a llwyddwyd i godi y swm gofynol; a mawr oedd llawenydd yr hen dad a'r ychydig gyfeillion ereill yn Brontecwyn pan ddeallasant hyn. Clywsom ef lawer gwaith- yn myned dros hanes yr ymdrech neilltuol hon o'u heiddo, ac am y rhan flaenllaw ac effeithiol gymerodd Mr Jones ynddo, ac hefyd am y cyd- ymdeimiad byw, a'r cynorthwy sylweddol a gawsant gan gyfeillioa Soar. Teimlodd yn angerddol gynhes at bawb a estynodd gynorthwy iddynt yn y cyfwng hwn yn eu hanes. Wedi derbyn y loan a'r grant, gwnaeth ei feddwl i fyny, os cawsai fyw, i dalu y swm gofynol o'r loan yn ei hadeg briodol, a chredwn iddo lwyddo i wneyd hyny yn ddifwlch. Dadganai yn aml ddymuniad am gael byw i weled y ddyied oll wedi ei thalu. Nid ydym yn sicr a gafodd hyn yn hollol. Yr argraff ar ein meddwl ydyw fod y rhan-dai ddiweddaf wedi ei thalu ychydig amser cyn iddo gael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Gwyddom hyd 2 m Cyf. 88.