Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB EUPHAWN WESLEYJUDD. HYDREF, 1896. COFIANT ME RICHAED OWEN, TY NEWYDD, BRONTECWYN. GAN Y PARCH. ROWLAND ROWBANDS. '"* *"• AE'r Eurgrawn wedi bod, ac yn bod o wasanaeth anmhrisiadwy i foes a chrefydd yn ein gwlad, yn ei waith yn diogelu coffadwr- iaeth " rhagorolion y ddaear.'' Mae ymgydnabyddu gyda hanes pobl dduwiol—hanes eu troedigaeth at Dduw, hanes eu hauhawsterau i fyw bywyd crefyddol, eu ffyddlondeb i Dduw, eu gwasanaeth i ddynion, yn nghyd â'u profiadau crefyddol—yn foddion effeithiol i argyhoeddi a chyffroi yr annuwiol, i'w ddwyn i ystyried ei ffyrdd, ac ymawyddu am ffyrdd rhinwedd a sancteiddrwydd ; ac yn foddion i galonogi a chadarn- hau y duwiol. Fe welir crefydd Iesu Grist, fel pob peth arall, yn gliriach, a charia ddylanwad cryfach ar ddynion yn yr ymarferol nag yn yr athrawiaethol. Ac nid oes ameuaeth nad yw y cofiantau cyfoethog a geir yn yr Eurgrawn wedi profi yn foddion iachawdwriaeth, ac yn foddion cryfhad i ganoedd. Mae Duw wedi bwriadu i fywyd sanctaidd gael ei ddiogelu, a'i drosglwyddo o oes i oes, ac o genedlaeth i genedl- aeth, oblegid fe ddywedir yn y gyfrol sanctaidd fod y " cyfiawn i fod byth mewn coffadwriaeth;" ac yn hyn mae yr Eurgrawn yn cario allan fwriadau tragwyddol Duw. Credwn yn sicr fod bywyd yr hen dad Eichard Owen wedi bod yn gyfryw fel y teilynga le yn mhlith " cwmwl tystion " yr Eurgrawn. Nid oes dim mawreddog a rhamantus i ddyweyd amdano. Nid oedd hynodiou eithriadol yn perthyn iddo ; bywyd gwastad a chymharol dawel a digyffro fu ei fywyd ef, ond eto yr oedd yn fywyd prydferth, goleu, a defnyddiol iawn. Mab ydoedd ein gwrthddrych i William ac Ellen Owen, Tŷ Newydd, Llandecwyn, Sir Feirionydd. Yr oedd ei deulu o ochr ei dad yn un o deuluoedd hynaf a pharchusaf y plwyf. Ceir eu bod wedi trigianu yn Tý Newydd—cartref Eichard Owen—am dros 350 o flynyddau, ac maent yn huno yn mynwent henafol Llandecwyn, yr hon sydd rhyw haner milltir i'r mynydd o Tý Newydd. Cafodd tad ein gwrthddrych y fraint o weled a chlywed y Parch. John Wesley pan oedd yn lletya yn Tany- bwlch, Maentwrog, ar ei ffordd i Gaergybi, i groesi i'r Ynys Werdd. Ymhyfrydai mewn cael cyfleustra i son am yr amgylchiad dyddorol hwnw, ac edrychai arno fel un o freintiau penaf ei oes. Yr oedd ei fam, Ellen Owen, neu fel yr adweinid hi yn yr ardal hyd ddiwedd ei hoes, Ellen Evans, ei henw morwynig, yn ferch i Mr Eichard Evans, Aberdeunant, Llandecwyn, ac felly ynchwaeri'rhenbregethwrnerthoí 2 f Oyf. 88.