Skip to main content

YB EUIjGRAWN WESLEYJLIDD. MEHEFIN, 1896. COFIANT Y PARCH. DAYID EICHARDS. GAN Y PARCH. J. PRICE ROBERTS. VI,—El HANES AR GYLCHDAITH CAERNARFON—EI YMDRECH I WEITHIO PAN OEDD NATUR YN METHU—EI BROFIAD YN Y Wítíchnigllt—EI GYSTUDD OLAP—EI FARWOLAETH GYNAROt,—ÜYDD EI ANGHLADD. fERFYNWYD y bennod ddiweddaf gyda symudiad Mr Richards o Lerpwl i Gaernarfon. Dechreuodd yno eto ar ei waith arferol o ^1 ddifrif, gyda'r yspryd a'r ymroddiad hwnw oedd yn ei nodweddu ar hyd ei oes. Ei gydlafurwyr oeddent y Parchn. D. Marriott ac Edward Jones (c) yr ail wáith. " Cydgyfarfyddai y tri, yn aml," meddai Mrs Richards, " i gynllunio sut i lwyddo yr achos yn y gylch- daith, ac elai pob peth yn mlaen yn rhwyddallwyddianusiawn." Mae Mr Edward Jones bron yn methu cael geiriau digon cryfion i ganmol rhinweddau aml ei arolygwr, a chafodd well mantais i'w wir adnabod nag unrhyw frawd o'r bron, canys bu gydag ef ar ddwy gylchdaith. " Yr oeddwn yn ei ystyried," meddai mewn rhan o'i lythyr ataf, " yn fraint mewn gwirionedd o gael bod yn gydweithiwr â dyn mor ym- roddol ag oedd ef i waith yr Arglwydd. Gallaf ddyweyd fod y blyn- yddoedd y bum yn llafurio gyda Mr Richards y rhai dedwyddaf a dreuliais yn y weinidogaeth. Yr oeddent yn flynyddoedd o lafur mae'n wir, ond yr oeddwn yn ddedwydd yn y llafur. Yr oeddwn yn arfer edrych arno yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oedd dim twyll. Yr oedd yn byw yn mhob man yn gyson â'r hyn a ddysgai yn y pulpud ; ac yr oeddwn yn arfer edrych arno fel un o'r dynion duwiolaf a gyfar- fum erioed." Mae y brodyr oll a fuont ar yr un gylchdaith ag ef, a phawb oedd yn ei adwaen yn ei waith, yn barod i roddi seliau i'r dystiolaeth hon. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth Mr Richards wedi cyraedd ei gylch- daith newydd oedd ymdrechu deall ei sefyllfa, a cheisio teimlo y tir o dan ei draed. Yr oedd maes ei lafur a'i ofal yn dra eang ac annghys- bell, a'r eglwysi yn lluosog, ond mynodd wybod sefyllfa yr achos yn mhob lle-=-amgylchiadau allanol a chyflyrau ysprydol yr holl eglwysi—- a chael deall yn glir faint o adnoddau i weithio y gwaitb mawr oedd yn mhob lle. Tynodd allan ei gynlluniau, ac ymgysegrodd â'i hoil yni a'i nerth i'w troi yn sylweddau gerbron ei lygad. Wrth gwrs, daeth yn fuan i wybod llawer iawn am bobl ei ofal dros yr holl faes ; ond yn nhref Oaernarfon ei hun nid oedd ball na diffyg yn ei ymdrech i Iwyddo yr achos yn mhob agwedd arno. Cerddodd fwy na mwy i'r gwahanol leoedd yn y wlad, i gynal cyfarfodydd swyddogion ac ym- r Oyf. 88.