Skip to main content

YR EURGRAWN WESLEYAIDD. EBEILL, 1896. COFIANT Y PAECH. DAVID EICHAEDS. GAN Y PABCH. J. PBICE EOBEBTS. IV.—Ei Laeub yn Nghylchdeithiau Conwy a Bagillt. ü0 YN gorphen ohono ei dair blynedd lafurus a llwyddianus yn Llan- |/fâ\ rwst gwahoddwyd Mr Eichards i Gonwy, yn arolygwr y Gylch- ^ daith. Derbyniodd y gwahoddiad, cadarnhawyd hyny gan y Gynadledd, a chawn ef yn symud yno yn Medi, 1882. Gadawodd ar ei ol yn ý darn uchaf o Ddyffryn Conwy lawer o edmygwyr a chyfeill- ion a siaradant eto amdano fel am angel Duw. Gadawodd ddylanwad rhinweddau aml ei gymeriad ardderchog a ffrwythau amlwg ei ymdrech onest i berarogli'r tir. Do, gadawodd hefyd dystion lawer iddo gael ei arddel gan ei Feistr yn genad bywyd iddynt hwy; ac ymafiodd yn ngwaith ei gylchdaith newydd gyda mwy o yni ac ymroddiad nag o'r blaen, os yn bosibl, yn y darn isaf o'r Dyffryn enwog, lle mae y môr mawr yn golchi ei lanau, a'r castell hen yn gwylio ei draeth. Y Parch. Edward Jones (c) oedd cydlafurwr Mr Eichards am y tair blynedd y bu yn Nghonwy, yr hwn oedd yn byw yn Llandudno. " Cydweithiodd y ddau," meddai Mrs Eichards " yn hynod ddedwydd, a pharhaodd y brawdgarwch a'r cyfeillgarwch llwyraf rhyngddynt hyd y diwedd." Tair blynedd o ymdrech deg, o lwyddiant amlwg aneillduol, ac o dded- wyddwch mawr a dreuiiodd yn Nghonwy. Nis gallaf wneyd yn well yn y fan hon na gadael i Mr E. P. Hughes, Conwy, lefaru yn ei eiriau ei hun. Cafodd ef fod yn llygad-dyst o holl symudiadau a gweithgar- wch fy nghyfaill yn y lle hwnw, ac ymddengys ei fod yn un o'i brif gyfeillion am y deng mlynedd olaf o'i oes. Dyma ddarn o lythyr Mr Hughes :—" Nid heb dipyn o bryder gan rai o frodyr Cylchdaith Conwy y penderfynwyd rhoddi gwahoddiad i Mr Eichards i lafurio yma. Tueddai y rhai hyny at gael gweinidog hynach a mwy profiadol; ond erbyn Cyfarfod Chwarterol Mawrth yr oedd y gair da a dderbyniwyd o %lchdaith Llanrwst wedi ymlid ymaith bob pryder, a chadarnhawyd y gwahoddiad yn unfrydol a chalonog. Ni fu y gweinidog newydd yn bir ar y maes nad oedd y syniad yn gyffredinol fod y dewisiad yn un doeth, ac yn un y gellid disgwyl llwyddiant mawr i'w ddilyn, dan fen- dith Pen yr Eglwys. Er nad oedd ond syniad ar y dechreu, achlysur- °dd reálities gwerthfawr yn bur fuan yn neffroad yr eglwysi. Cafodd galwad yr arolygwr ieuanc am waiih a gweithwyr wrandawiad; aeth segurwyr yn llai eu rhif, a segura allan o'r ffasiwn. Aeth yr awydd aia fod yn ddefnyddiol yn gyffredinol. Dilynwyd hyn gan lwyddiant sylweddol yn mhob adran o'r gwaith, ac yn rhif yr aelodau trwy yr K Cyf. 88.