Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n EÜRGHÂWN WESLEYAIDD. MAWRTH, 1896. COFIANT Y PABCH. DAVID BICHABDS. GAN Y PABCH. J. PBICE BOBEETS. III.—Hanes EI FYWYD, EI EAFUB, a'i LWYDDIANT AM Y NAW MLYNEDD CYNTAF O'l WEINIDOGAETH—Yn LlANFECHAIN—CeFNMAWB—BlBMINGHAM—pENYGBOES —Penmachno—A Llanbwst. flLYNWYD gwrthddrych y Cofiant o gychwyniad ei yrfa hyd ei alwad allan i waith y weinidogaeth yn Nghylchdaith Llanfyllin, yn mis Chwefror, 1873. Cartrefai yn Llanfechain. Nid wyf yn deall fod dim byd newydd a neillduol iawn yn galw am aros yn hir yn ei gwmni yn Llanfyllin. Y dyn ieuanc a ddarluniwyd eisoes oedd efe ynò—yr un cymeriad—yr un ymroddiad i ddiwydrwydd. Clywais y diweddar Barch. Isaac Jones, ar ryw achlysur neu gilydd, yn dyweyd yn ei ddull ei hun,—" Bachgen iawn oedd Dafydd Bichards pan yn hogyn hefo mi yn Llanfyllin. Pity garw na fasa'ch haner chi dri chwar- ter gystal a fo; 'roedd o yn rhemp o lafurus." • Y teimladau cyntaf a'i meddianodd wedi cyraedd ei gartref newydd yn Llanfechain oedd pryder ac ofn wrth feddwl am y gwaith oedd yn ei aros, a gwynebu ar oes o broffes uchel gweinidog Crist. Treuliodd oriau trymion yn nghwmni diffygion personol a chyfrifoldeb ei swydd, gan deimlo fel Paul ei fod yn llai na'r lleiaf. Ond yn hytrach na suddo dan y pwysau, efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr Anweledig; ac mae genyf sail i ddyweyd mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd ymgyfamodi yn ffurfiol â'i Dduw, a rhoddi ei hunan o'r newydd yn ei law. Dilynwyd hyn gan ymgyflwyniad llwyr i weithio y gwaith y galwyd ef iddo. Os awn ato i'r ystafell a alwai yn study, cawn ef yn plodio Institutes Watson, Thcodicy Bledsoe, pregethau Bobertson, rhai o lyfrau Paley, Beecher ar Bregethu, Hunangofiant Guthrie, a llyfrau ereill. Os dilynwn ef dros y rhiniog, ni cheir hamdden i " fyn'd am dro " yn ei gwmni, canys mae yn rhy brysur i ddim ond i fyned i'r moddion sydd yn y capel, neu ar daith i un o leoedd ereill y gylchdaith i gadw seiat neu draddodi pregeth, nèu, os nad hyny, rhaid ei ganlyn o dŷ i dŷ i ymweled â'r cyfeillion, Mae heddyw dystion byw mai felly y treuliai David Bichards ei amser ar Gylchdaith Llanfyllin, heb dori plan nac esgeuluso dyledswydd dan unrhyw amgylchiadau. Pregethai gyda chymeradwyaeth ac a,rddeliad; ac enillodd iddo ei hun le mor barchus ac ai?wyl yn nghalonau praidd ei ofal, fel na chafodd gefnu arnynt yn mhen blwyddyn a haner, heb iddynt gael dangos eu gwerth- fawrogiad ohono ef a'i lafur mewn oriawr aur a chadwen, y rhai a siaradant eu serch yn effëithiólach na geiriau. Edrychai yn ol at dymor g Cyf. 88.