Skip to main content

U EURGRAWN WESLEYAIOD. CHWEFROR, 1896. COFIANT Y PARCH. DAVID RICHARDS, GAN Y PARCH. J. PRICE ROBERTS. II.—Y Dyn Ieuànc Crefyddol yn Dinas Mawddwy—Yn DECHREÜ pregethu— Yn Nghylchdaith Abertawe—Yn Liverpool—Yn cynyg am y WEINID- OGA.ETH—Yn cael ei alw allan i Gylchdaith Llanfyllin. fADAWSOM Mr Richards, yn y rhifyn diweddaf, yn llencyn o chwarelwr yn Dinas Mawddwy, ac ar yr un pryd yn dechreu sychedu arn wybodaeth, a sylweddoli y cyfrifoldeb o fyw yn y byd. Adnabyddid ef yr adeg hono fel crefyddwr ieuanc, dwys, a difrifol ei yspryd, a phrydferth ei ymarweddiad, ac fel dyn ieuanc o weithiwr diwyd, gonest, a chynil gyda'i enillion. Gwnaeth ei feddwl i fyny ar ddau beth yn arbenig y pryd hyny : penderfynodd wneyd rhyw gymaint o iawn aui ddiffyg addysg foreuol trwy ymdrech gostus hunan-ddiwyll- iant, a phenderfynodd fod yn ddefnyddiol yn Eglwys Crist tra byddai byw. Hyn oedd uchelgais ei feddwl ac ysprydoliaeth ei ymdrech. O hyn allan cawn ef yn cyrchu at ei nôd Ond nid oedd ganddo, eto, un dychymyg fod cylch eangaeh ac uwch o ddefnyddioldeb yn aros am- dano, nag fel crefyddwr o ddifrif yn yr eglwys a'i magodd, ac yn yr Ysgol Sul a roddasai iddo laeth y Gair. I'r diben hwnw daeth i deimlo awydd am wybod rhywbeth am elfenau duwinyddiaeth, i ddarllen a chwilio yr Ysgrythyrau yn gyson, ac i deimlo dyddordeb angerddol mewn gwrando pregethau. Priniawn, yn wir, oedd ei fanteision; ond llwyddai i gael ambell i lyfr benthyg gan hwn a'r llall, ac ychydig o lyfrau yn etifeddiaeth iddo ei hun ; a gwnai ohonynt gymdeithion di- ddan yn oriau hirion y nos, a phob enyd o hamdden yn ystod y dydd. Gwelwyd ef lawer gwaith, rhwng pymtheg ac ugain oed, yn nghwmni ei gyfaill Tegwyn ac ereill yn cyrchu i " gyfarfod mawr " Machynlleth, Corris, Dolgellau, a manau ereill; ac ar nos Sabboth, droion, yn heb- rwng yr hen efengylwr ffyddlon—John Owen, Corris—i Fwlch yr Oèrddrws, pan oedd yr hen bererin hwnw yn llesg ymlusgo tuag adref drosfryniaua mynyddoedd, ar ol bod yn " cadw 'i blan " yn ngwlad Mawddwy. Dyna oedd ei elfen y blynyddoedd hyny. Rhoddaf yma air o lythyr y Parch. William Thomas, yn cyfeirio at wrthddrych y Cofiant yn y cyfnod dan sylw. Dymafel y dywed:— " Vn Nghynadledd 1868, fe'm penodwyd yn ail bregethwr ar Gylch- daith Dolgellau, ac i gartrefu yn Towyn. Sabboth, Medi yr 20fed, yr • oeddwn yn pregethu yn Bryncoch am 10, a Dinas Mawddwy am 2 a 6. Yn yr odfa y prydnawn hwnw, yn hen gapel Penygeulan, gwelwn fachgen ieuanc, oddeutu 18 oed. Gwnaeth ei ddull defosiynol, syml, ae astud yn gwrando argraff ar fy meddwl ar y pryd. Wrthddod u Cyf. 88.