Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Eurgrawn Wesleyaidd. Cyf. 01.] MEDI, 1909. [Rhif 9. Y PARCH. WILLIAM ROWLANDS (GWILYM LLEYN), AWDWR LLYFRYDDIAETH Y CYMRY. Gan y PARCH. D. GWYNFRYN JONES. 'N sicr, nid oes neb yn deilyngach i gael ori î1 fechan iddo ei hun yn yr Eurgrawn Canmlwydd na Gwilyrn Lleyn. Heblaw gosod ei enwad, y mae Gwilym Lleyn wedi gosod ei genedl o dan deyrnged drom i'w goffadwriaeth. Tra bydd y Gymraeg a'i llên yn bod, bydd Llyfryddiaeth y Gymry yn glasur dan fri a chlod. Ond cawn fyned at hyny eto; yn gyntaf oll, yn ol arfer yr hen Gymry yng ngwyliau'r Mabsantan, ni a adroddwn ryw dipyn o fuchedd y sant. Bydd yn haner canmlwydd, toc, er pan aeth William Rowlands o blith y llengarwyr,—er pan yr ildiodd ei gryman, ac yr aeth allan o blith y medelwyr. Mae tô newydd yn awr yn y tir, ac er eu mwyn hwy adroddwn rai o brif ffeithiau bywyd ein gwron. Un o blanhigion gwlad Lleyn—gwlad nid anenwog fel magwrfa llenorion ydyw Lleyn; gallesid enwi llawer bardd a llenor o Leyn, na bydd machlud ar ei goffa tra darllenir iaith y Brython. Heb sôn am Dic Aberdaron, yr ieithegydd hynod, hon yw gwlad y bardd boreu, o'r un enw a'n gwron, Rowland Jones, Ieuan Lleyn, &c. Peth manteisiol i dwf athrylith, yn ddiau, ydyw gwlad â thraddodiadau. Ond i ba beth y crwydraf, y Parch. William Rowlands, gweinidog Wesleyaidd, ydyw'r pwnc. Mewn pentref bychan llwydaidd, digon dinod hefyd, yn dwyn yr enw Bryncroes, tua phum milltir o Aberdaron, y ganwyd ein gwrth- rych. Mae mwy na chan mlynedd er yr adeg hono, Awst y 2^ain, 1802. Fe'i ganwyd, chwi welwch, bron ar yr un dydd a Wesleyaeth Gymreig. Pan oedd Edward Jones (Bathafarn), Owen Davies a John Hughes, Aberhonddu, yn gwylio ac yn ysgwyd cryd Wesleyaeth Gymreig yn Nyffryn Clwyd, yr oedd Thomas ac Elenor Rowlands yn Bryncroes yn ysgwyd cryd bachgen bach ddaeth yn un o wroniaid yr enwad newydd. William oedd mebyn cyntaf Thomas ac Elenor Rowlands. Bu iddynt bum ereill ar ei ol ef, dau fab a thair merch. l A