Skip to main content

^r (^urgraron ]2$e$£eyaxbb. Cyf. XCVIL RHAGFYR, 1905. Rhip 12. Çofiapt Mir. Çuropbrey Çuropbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Rictiard Morgan (a). JÂtDDAWSOMein hadsymiad o elfenau cymeriad Mr. Humphreys, ^\ a'n barn am ddirgelwch ei gryfder a'i lwyddiant, yn ein cyfroddiad olaf hwn. Ond, hwyrach, cyn dyfod at y gor- chwyl pwysig hwnw, y gweddai i ni wneyd crybwylliad bỳr am ei gladdedigaeth. Yn y gladdfa fechan glyd, sydd yn nglyn â'n capel yn Rhos-y- Brithdir, y rhoddwyd ei weddillion i orphwys, yn ol rhagdrefniant o'i eiddo ef ei hun, ac Ebrill 2fed, 1902, y cymerodd hyny le. Fel y buasid yn disgwyl, daeth tyrfa fawr iawn o alarwyr o bell ac agos, i hebrwng eu hen gymydog a'u hathraw i'w daith olaf ar y ddaear. Gorlanwyd buarth mawr Brynteg gan y dorf, ac yno y cynaliwyd y wasanaeth gyntaf yn nglyn â'r amgylchiad galarus, dan arweiniad y Parch. A. Lloyd Hughes, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn. T. C. Roberts, R. Morgan (a), ac ereill. Cynaliwyd ail wasanaeth yn Nghapel Pen-y-Garnedd, lle y siarad- wyd yn effeithiol gan y Parch. T. Owen Jones, Mr. J. Lloyd Jones, ac amrai ereill. Yna symudwyd yn araf i gyfeiriad y Brithdir, ac yn y gladdfa yno gwasanaethwyd yn deimladwy a phriodol gan weinidog- ion y gylchdaith. Yno, bellach, y bydd "tŷ rhagderfynedig" yr hen sant o'r Brynteg, a Cornorion cyn hyny; ac yno y gorphwys y gwas da a ffyddlon, hyd foreu mawr caniad yr udgorn, " llef yr archangel," a'r gwahoddiad mwyn o'r nef, "dring i fyny yma." Wel, bellach, am ein hadsymiad o hanes ein hen gyfaill anwyl, a'n barn am ddirgelwch ei gryfder a'i ddylanwad. Hwyrach mai prin y gellir dy weyd fod Mr. Humphrey Humphreys yn feddianol ar alluoedd meddyliol grymus a disglaer. Hyd y sylw- asom, ni feddai ar gymaint ag un gyneddf neillduol o ran cryfder a fynai ymwthio i'r golwg, hyd nod yn achlysurol, fel math o brif allu. Yn y dosparth canolraddol y buasem yn ei restru o ran cyneddfau meddyliol, a phob gallu, namyn y dychymyg, yn sefyll yn barchus ac mewn cyfartaledd dymunol. 1 k