Skip to main content

*ür ^urgranm !2$e&£eyaibb. Cyf. XCVII. TACHWEDD, 1905. Rhip 11. Çofiaot Mr. r)un>pbrey r)an>pbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morgan (a). @ -------- ,WE, son yr ydym bellach am' derfyn y daith yn hanes ein gwrth- aty ddrych. Dyfod i derfyniad y mae pob taith yn y byd hwn ; ac felly eiddo Mr. Humphrey Humphreys, er ei meithder annghyffredin. Ond cafodd ein hen gyfaill orphen ei yrfa hirfaith yn hamddenol, yn y mwynhad o dangnefedd heddychol, ac megys cyn i'r nos ei ddala. A gellir dyweyd yn hyf amdano, y bu efe yn ffyddlon hyd angeu ; ac y gwireddwyd yn llawn ynddo y geiriau hyny, " Ni frysia yr hwn a gredo." Eithr ni ddaeth y diwedd eto. Yn ystod haf 1901, ac efe eisoes yn llawn unarddeg a phedwar ugain oed, yr ydym yn ei gael gyda'i hoff waith o efengylu, oedd, er's talm bellach, wedi dyfod megys ail natur ynddo. Ymddengys y traddododd bump o bregethau yn haf y nwyddyn hon, sef dwy yn Mhen-y-garnedd, dwy yn y Brithdir, ac un yn Soar. Yr oedd dwy o'r pregethau hyn yn hollol neiwydd—y rhai olaf a gyfansoddwyd ganddo. Y tro diweddaf y pregethodd oedd yn Mhenygarnedd foreu'r Sul, Medi 15fed, ar y geiriau hyny, "Un peth a ddeisyfais i gan yr Ar- glwydd, a hyny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhỳ yr Arglwydd holl ddyddiau fy ìnywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml," &c. (Salm xxvii. 4, 5). Arferai ddethol ei emynau gartref, cyn cychwyn i'r capel. Gwnaeth felly y tro hwn. Ac yr oedd rhywbeth yn darawiadol iawn yn yr emyn diweddaf o'i eiddo y boreu hwnw, yn neillduol pan gofìr ei fod newydd draddodi ei bregeth olaf, a hyny o fewn rhyw bum mis i ddydd ei farwolaeth. Darllenodd allan yn llawn, a chyda phwyslais neillduol, emyn 458 o'r Llyfr Emynau Newydd : " Arglwydd, gâd im' dawel orphwys Dan gysgodau'r palmwydd clyd," &c A phan ddaeth at y llinellau canlynol, dywedir fod rhyw effaith neillduol iawn yn cydfyned a'r darlleniad ohonynt gan yr hen dad anwyl, 1 G