Skip to main content

3ír ^urgrctnm !Z$esZe\?càbb. Cyf. XCVII. HYDREF, 1905. Rhip 10. Çofiapt î\v. Çumpbrey r)ar»pbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morgan (a). fR ydym eisoes wedi dilyn symudiadau ein gwrthddrych, gyda gradd o fanylrwydd, am lawn hyd oes dyn cyffredin. Ond gwelwn fod genym i'w deithio eto gyfwng o gryn feithter yn yr anialwch cyn y byddwn wedi cyraedd Rhosydd Moab, Pennebo, a therfyn y daith. Felly, bellach, rhaid prysuro a bras-gamu yn mlaen. Yn y flwyddyn 1877, mae Mr. Humphreys yn gadael Cornorion Fawr, am Brynteg, ei drigfod newydd glyd a chysurus, a'i gartref olaf ar y ddaear. Ac fel hyn y bu parthed y symudiad i'r Brynteg. Tua'r adeg yna, yr oedd un arall o ferched ein hen gyfaill newydd ymbriodi gyda gû r ieuanc o amaethwr parchus a phregethwr cyn- orthwyol, sef Mr. Edmond Yaughan o'r Mount, Llangedwyn. Yr ydym yn dyweyd un arall am y buasai yr henaf o'r merched eisoes yn briod gyda ffermwr a phregethwr cynorthwyol cymeradwy, yn mherson Mr. David Ellis, Pennantwrch, Cylchdaith Llanfaircaereinion. Pa fodd bynag,yn 1877, penderfynodd Mr. Humphreys y buasai yn gadael Cornorion Fawr, er mwyn gwneyd lle i'w fab-yn-nghyfraith, Yaughan, a'i gymhares ieuanc, ar ddechreu eu bywyd priodasol. Ac fel dyn meddylgar a darbodus, mae Mr. Humphreys yn gwneyd dar- pariaeth brydlon ar gyfer ei ymneillduad ei hun a'r gweddill o'i deulu. Yn ystod y ílwyddyn a enwyd, mae'n adeiladu'r Brynteg— enw priodol iawn ar y cartref newydd. Saif ar ysgwydd y bryn, rhwng Cornorion a'n capel yn Mhenygarnedd, ac â'i wyneb i'r deheu. Mae'n lle bychan clud a dymunol iawn. Ymddengys fod dau neu dri o ddylanwadau yn cyd-weithio er tueddu Mr. Humphreys i adeiladu ei dŷ ar y llanerch hon. Hwyrach mai y blaenaf a'r cryfaf o'r dylanwadau hyny—yn neillduol felly yn ei feddwl ef ei hun—oedd agosrwydd y lle i'r llecyn bythgofiadwy ar yr hwn y buasai mewn dwys a mynych ym- drechion am drugaredd i w enaid, yn nydd ei gyfyngder mawr, flyn- yddau lawer yn ol, a'r ]le o'r diwedd y torodd y wawr arno, ac ei 1d