Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^r ^urgrawn l^eeCepatòò. Cyf. XCVIL AWST, 1905. Rhif 8. Cofiapt F\r. Çüiwpbrey Çaropbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morgan (a). E yn wir, cyfnod tra phwysig yn mywyd Mr. Humphreys oedd hwn—o'r flwyddyn 1853 hyd i 1877. Mae'n orlawn o ffeithiau a digwyddiadau o ddyddordeb. A pha fodd i'w crynhoi i gylch un bennod, sydd anhawster; ond ymgeisir at hyny. Gan ddechreu gartref, cymerwn gipdrem ar ein gwrthddrych ar yr aelwyd gyda'i deulu, ac ar y fferm, yn nghanol ei ofalon fel amaethwr. Ymddengys y byddai bob atnser yn hollol naturiol a pherffaith ddedwydd yn nghanol ei deulu gartref. Nid hir y bu ef a'i serchus briod yn aneddu yn Nghornorion, na ddaethant i fod yn berchenogion hapus ar deuluaid o gryn chwech o enethod glân ac un mab. Yr oedd yntau, Mr. Humphreys, fel tywysog yn eu canol—yn siriol a thyner ; ond er hyny, fel esgob yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd ein gwrthddrych yn gredwr mawr yn y weddi deuluaidd er pan ddychwelwyd ef gyntaf at yr Arglwydd. Gwnaethai ymdrech deilwng i godi'r allor deulu- aidd ar aelwyd yr hen gartref, yn ngwyneb gwrthwynebiad cyndyn ei dad, a llwyddodd mewn rhan y pryd hyny. Ond erbyn hyn mae pob rhwystr wedi ei symud oddiar y ffordd, a'r "Ddyledswydd" yn myned yn mlaen mewn rhwysg ar hen aelwyd Cornorion Fawr, a Mr. Humphreys mewn afìaeth sanctaidd yn dyweyd yn y modd mwyaf ymarferol bob dydd, " Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Mor fawr, yn wir, oedd y cyfnewidiad ar aelwyd Cornorion, fel os digwydda i \Vr y tỳ fod yn absenol ar adeg " Dyled- swydd"—ac yn anfynych y byddai hyny—llenwid ybwlch gan Mrs. Humphreys a'r plant hynaf; ac ni byddai pall ar s\vn y weddi a'r mawl yn yr hen drigfod o ddydd i ddydd. Ond dyna helyntion y fferm wedi hyny. Buom yn meddwl lawer gwaith mai amaethwr crefyddol, diwyd, a gweddol lwyddianus oedd y dedwyddaf o ddynion; ac ar y cyfan, dyna yw ein hopiniwn fyth. Ond rhaid cofio nad bywyd hollol ddigroesau yw eiddo y goreu a'r mwyaf ffortunus o amaethwyr. Cheir mo'r melus heb y