Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ír ^urgrawn ^esCe^atòô. Oyf. XCVIL GORPHENHAF, 1905. Rhif 7. Çofiapt Mr. Çuropbrey Çuropbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morgan (a). fE, yn ystod tymor ei aneddiad yn Nghaesiencyn, rhwng y blynyddau 1845 a 1853, y daethum gyntaf i gysylltiad personol agos gyda Mr. Humphreys. Wrth gwrs, yr oeddwn wedi ei weled a'i glywed yn pregethu rai gweithiau cyn hyny ; ond nid oes genyf amgen na " chôf plentyn " am yr adegau pell hyn. Cofiaf y byddai cynulleidfa fawr yn gyffredin yn gwrando " Wmffre Wmffres, Cornorion," fod ganddo lais rhagorol, ac y pregethai gyda thanbeid- rwydd neillduol. Sylwais hefyd ar un hynodrwydd bychan ber- thynai iddo yn y tymor hwnw, sef yr arferai ddodi ei law ar ei glust aswy, drosodd a throsodd, pan ddechreuai fyned i'w hen hwyl Gymreig effeithiol! Dyna bron yr oll allaf gofìo amdano fel pre- gethwr, yn y cyfnod cynarol hwn. Mae genyf adgof arall amdano, tra nad oeddwn eto ond hogyn bychan. Y tro hwn yn gadeirydd mewn cyfarfod dirwestol yn nghapel yr Annibynwyr yn Llanrhaiadr. Yr areithydd y noson hono oedd Mr. Thomas Jones, Llansantffraid ; masnachwr parchus yn y lle, a phregethwr gyda'r Annibynwyr, a dirwestwr selog ac adnabyddus. Hyd y gallaf gofio, tua chanol haf y flwyddyn 1844 y bu hyn, pan oedd y symudiad dirwestol cyntaf yn cynhyrfu Llanrhaiadr a'r cyífìniau, dan yr enw Rechabiaeth. Braidd nad y cwbl allaf gofio am y cyfarfod hwn eto ydyw, fod y cadeirydd a'r areithiwr yn siarad yn gryf a difloesgni yn erbyn y diodydd meddwol; ac yn argymhell llwyrymwrthodiad fel yr unig feddyg- iniaeth rhagdilynt; a'm bod inau, yn fy meddwl ieuanc dirwestol, yn cymeradwyo'r sylwadau i'r eithaf, ac yn rnawr edmygu y siarad- wyr, yn neillduol felly Mr. Humphreys, am ei fod yn un o'n "pobl ni," mae'n debyg. Adgof arall sydd genyf am Mr. Humphreys, a'm dug yn ol i ganol berw gwyllt ffeiriau poblogaidd Llanrhaiadr yn nydd fy mebyd. Fel bechgyn ereill y " Llan," arferwn droi allan yn llawn cywreinrwydd