Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XCVII. EBRILL, 1905. Ehif 4. Çofiapt Flr. Tỳamptyrey Çuropbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. GrAN Y PARCH. RlCHARD MORGAN (a). ■"* *"AE ein gwrthddrych bellach yn llanc tua phymtheg oed, wedi "gorphen ei ysgol," ac ymsefydlu gyda'r teulu yn eu cartref newydd, Cornorion Fawr, yn ngwaelod Cwm-nant-fyllon. Ac edrychwn ar y purn mlynydd nesaf, fel math o argyfwng tra phwysig yn hanes ei fywyd. Daethai adref o'r Ysgol o Groesoswallt gyda saeth argyhoeddiad yn glynu yn ei gydwybod ; a mynych wedi hyny y teimlodd fod yr Yspryd Glân yn ymyraeth yn gryf â'i feddwl, ac yn dyfnhau yr ymdeimlad o euogrwydd poenus oedd eisoes wedi meddianu ei fynwes. Ond maith a chaled iawn fu y frwydr gydag ef cyn yr ildiodd i roddi ei hun yn llaw y "Ceidwad Mawr," ys dywedai. Ac, yn wir, yr oedd lle i betruso ar brydiau, yn ystod y blynyddau hyn, pa un ai " deddf yr aelodau" a'i ynte "deddf Yspryd y bywyd yn Nghrist Iesu" a orfyddai, gan mor fawr a mynych yr ymgodymu fu rhyngddynt. A braidd nad ydys yn dychmygu ei glywed yn aml yn y tymhor terfysglyd hwn, mewn gwasgfa enaid, yn gruddfan gyda Paul," Ys truan o ddyn wyf ô, pwy a'm gwared! " Ond yn achos Mr. H. Humphreys, bydd raid myned yn mlaen eto am yspaid lled faith cyn y ceir gweled yr ymdrechfa galed drosodd,—y waredigaeth fawr wedi ei chyraedd, a gras y nef wedi enill y fuddugoliaeth. Ystyriai ein gwrthddrych fod symudiad y teulu o Gileos i Gornorion wedi profi yn fanteisiol iddo ef mewn amrai ystyron. Tueddir ninau i gredu fod gan rhagluniaeth ddwyfol law yn y symudiad, ac fod Uesiant crefyddol y teulu mewn golwg; ond yn neillduol felly eiddo y mab Humphrey. Yr oedd y cylchyniadau yn y cartref newydd lawer yn fwy manteisiol i'r Arglwydd allu cario allan y cwrsweith- rediad angenrheidiol ar gyflwr y llanc, er ei barotoi ar gyfer y cyfnod üiaith o ddefnyddioldeb oedd o'i fiaen. Canysyr oedd efe, yn ddiau, yn llestr etholedig i Dduw. Un angenrhaid pwysig arno yr adeg yma oedd cael ychydig addysg- laut mewn Ysgol Sabbothol dda. Ac yn ffodus iddo ef yr oedd Ysgol Sul yn cael ei chynal gan y Methodistiaid Calíìnaidd mewn ffermdy