Skip to main content

^ír ^urgranm i^esCepatòò. Cyf. XCVII. MAWRTH, 1905. Bhif 3. Çofiapt Mr. Çaropbrey r)üi»pbreys, BRYN TEG, CYLCHDAITH LLANFYLLIN. Gan y Parch. Richard Morcìan (a). 'Meddyliwch am eich blaenoriaid, ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarn-eddiad Iwynt." ^AETH gyrfa faith, loew, a thra defnyddiol Mr. Humphrey Humphreys i ben ganol hâf y flwyddyn 1902, ac efe yn fab canmlwydd namyn wyth, ar ol bod ohono yn flaenor medrus a defnyddiol am un-mlynedd-arddeg-a-thrigain, ac yn bregethwr dylanwadol a chymeradwy am ddeg-a-thrigain o flynyddau. Efe, mae'n debyg, oedd y blaenor a'r pregethwr lleol hynaf a feddem yn Nghy mru, os nad yn y deyrnas, pan y bu farw. A thros y rhan helaethaf o'r cyfnod maith a enwyd, yr oedd ei ddylanwad felgwladwr, Cristion, a phregethwr yn fawr a dwfn, ac yn neillduol felly lle yr adwaenid ef oreu—ar gyrion Swyddi Maldwyn, Dinbych, a Meirion. A thybiwyf, yn wir, y byddai yn esgeulustra dybryd ynom, ac yn gywilydd i ni fel Cyfundeb, pe gadawem i enw a hanes gŵr o fath " Humphrey Humphreys, Cornorion" (canys felly yr adwaenid ef dros dymor maith) syrthio i ebargotìant o eisieu gwneyd cynyg at godi Côf- golofn fechan iddo ar ddalenau yr Eurgrawn. Yn wir, " yr oedd efe yn haeddu gwneuthur ohonom hyn iddo.'' Ac heblaw hyny, byddai esgeuluso dwyn allan Gofiant i'r gwas da a ffyddlon hwn yn golled i'r eglwys ac i'r genedl. " Cofîadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Ni adawodd Mr. Humphreys ei hun gymaint a gair o'i hanes mcwn ysgrif ar ei ol, ond mae Miss Davies, un o'i wyresau, yr hon a fu yn gweini yn dyner arno ef a'i anwyl briod dros fìynyddau eu henaint a'u llesgedd, yn garedig iawn wedi anfon i mi dwysged o ddefnyddiau at lunio Cotìant i'w henwog daid ; a thrwy y cynorth- wyon gwerthfawr hyn, gyda llythyrau y bu nifer o gyfeillion ac edmygwyr Mr. Humphreys mor garedig a'u hanfon i mi, a'm hadna- byddiaeth bersonol inau o'r gwrthddrych am dros haner canrif, hyderwyf y gellir llunio colofn goffadwriaethol weddol gyflawn iddo, a theilwng ohono.