Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^r ^urgranm B^^fcpatòò. Cyf. XCVII. CHWEFROR, 1905. Rhif 2. Çofiapt y Parcb. Jobo Owep Parry. Gan y Parcii. T. Isfryn Hughes. l^ADAWSOM ein gwrthddrych yn Mhenmachno. Gwelsom mor AÎI barchns ac anwyl y safai yn ngolwg y bobl. Yn chwanegol at ei lafur gogyfer â'r pulpud a chyfarfodydd y bobl ieuainca'r plant, parotodd a thraddododd, tra yn Mhenmachno, gyfres o ddar- lithiau rhad ar y testynau, " Manteision a Pheryglon yr Oes," " Nodweddion y Cymeriad Cymreig," " Pabyddiaeth," " Yr Ewyllys," a " Wil Bryan." Traddododd yr olaf mewn amryw leoedd yn y gylchdaith, ac mewn rhai lleoedd hefyd o'r tuallan iddi. Prin y gellir dyweyd fod ynddo elfenau y darlithydd poblogaidd, ond yr oedd ei ddarlithiau yn llawn o addysg, ac yn rhwym o fod yn foddion deffroad meddyliol i'r gwrandawyr. Rhaid y golygai parotoi y gyfres gryn lafur iddo, ond pleser oedd llafur iddo ef, os gallasai drwyddo fod o fudd ac adeiladaeth i bobl ei ofal. Mor bell ag y gwelaf yr unig waith a ysgrifenodd i'r wasg tra y bu yn Mhenmachno oedd Cofìant Mr. Griffìth Roberts, Penmachno, a ymddangosodd yn yr Eurgrawn am Tachwedd a Rhagfyr, 1898. Fel y nodwyd yn barod, yr oedd ei iechyd wedi tori i lawr cyn iddo adael Penmachno. Mewn gwirionedd yr oedd y gelyn marwol, y darfodedigaeth, wedi ymaflyd ynddo. Ond disgwyliai ef y cawsai adferiad ond symud i le tynerach ei hinsawdd na Phenmachno, ac i gylchdaith ysgafnach ei theithiau nag eiddo Llanrwst. Ac yn y gobaith am hyn yr addawodd fyned i Gylchdaith Mynydd Seion, Lerpwl, wedi aros ond dwy flynedd yn Mhenmachno. I Lerpwl felly yr aeth ddechreu Medi, 1897. Ac ar y cyntaf ymddangosai y cyfnewidiad i fod yn llesol iddo. Cafodd auaf lled dda. Cadwai ei gyhoeddiadau Sabbothol ac wythnosol yn llawn. Pregethai, yn ol tystiolaeth gyffredinol y gylchdaith, yn nodedig o rymus. Cyflawnai ei waith fel bugailynffyddlon. Cyfarfyddai y Gymdeithas Lenyddol, a sefydlodd ddosparth Cymraeg i'r ieuenctyd. Gobeithiai fod y gwaethaf drosodd gyda'i iechyd. Ond siomiant chwerw gafodd. Twyllodrns y trôdd allan yr arwyddion gwella. Erbyn dechreu y