Skip to main content

3/r 1Zur<?rai0n Weéíej/aidd. Oyf. XCVI. TACHWEDD, 1904. Rhip 11. Çofiapt y Parcb. San>ael Davies. Gan y Golygydd. Ei Ymddangosiad Personol—Teithi ei Feddwl—Ei Gynyrchion—Ei Nodweddion fel Awdwr—Ei Allu fel Golygydd—Ei Fedr fel Goruchwyliwr. R wedi gorpben cofnodi prif ffeithiau bywyd Mr. Davies, efallai na chyfrifid fod y Cofiant yn gyfiawn heb ryw sylw ar eiymddang- osiad personol, ei brif nodweddion, a dylanwad ei lafur ar Wesleyaeth Gymreig. Mae llawer o'r tô ieuengaf o'n darllenwyr heb gael cyfieustra i'w weled na'i glywed, a chyfyd cenedlaeth arall fydd yn awyddys iwybod yr oll a ellir amdano; ac heb ddemyddio y cyfleustra presenol i hyny, gall y llithra heb ei gyflawni. Ymddangosodd rhai nodiadau arno yn y Geninen, gan Glanystwyth a'r Parch. W. H. Evans, ac mae y naill a'r llall yn ysgrifau rhagorol; ond prin y byddai yn iawn i'w Gofìant- ydd ei adael heb wneyd rhai sylwadau arno, er yn llai teilwng yn mhob ystyr. Ymrithia o flaen fy meddwl fel yr ymddangosai fwy na deugain mlynedd yn ol. Y pryd hwnw yr oedd lawer yn eiddilach ac ysgafn- ach, oblegid hyny ymddangosai yn dalach nag yn ei fiynyddoedd diweddaf. Gall ei fod yn rhyw bump a chwech, neu efallai yn bump a saith o ran taldra. Gorchuddid y pen â gwallt o liw gwineu, a chryn duedd ynddo i fod yn droellog. Yr oedd y talcen yn uchel, llydan, a llawn, ac yn gadael argraff ei fod yn ddyn o alluoedd lluosog ac amryw- iol, a'r galluoedd hyny yn lled gyfartal. 0 dan aeliau lled ysgafn yr oedd llygaid gleision, byw, a threiddgar, fel pe yn gweled pawbaphob- peth, ac yn treiddio trwy yr oll a ganfyddai. Y pryd hwnw yr oedd y wyneb yn ymddangos yn gul a theneu, a'r bochgernau yn codi yn uchel, ond gyda threigliad amser daeth y wyneb yn llawnach a Uetach. Yr oedd y ffroenau yn agored, yr hyn oedd yn gwneyd anadlu yn naturiol a rhwydd, ac mae hyny yn bwysig i siaradwr cyhoeddus—y genau heb fod yn llydan, a'r gwefusau yn tueddu at fod yn dewychus,