Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2/r tìurgraiûn Wedfeyaidd. Cyf. XCVI. HYDREF, 1904. Rhif 10. Çofiaot y Parcb. San)üel Davies. GrAN Y GrOLYGYDD. Mariuolaeth ei ail wraig—Cystudd Mrs. Morgan, ei ferch—Claddu hen gyfeillion— Dadorchuddiad Cofeb Mr. Jones, Bathafarn—Agoriad Capel Llanrwst—Cyfarfod _^ Talaethol y De- Eto, y Gogledd—Agoriad Capel Bodffari—Cynadledd Burslem ' —Ei ymweliad á Llandrindod — Cyfarfod Cyllidol Towyn — Pwyllgor Caerdydd. 1885—Ysgrifenu, "Ein Darlun"'— Cyfarfod Talaethol Llanrwst—Addysg Ym- geiswyr—Y Maes Llafur—Cyfarfod Talaethol Machynlleth—" Amalgamation" eto — Cynadledd Newcastle—Ethol y Parch. R. Eoberts yn Llywydd—Mr. Davies yn cael taraiciad o'r parlys—Agor Capel y Tyddyn—Ei briodas â Mrs. Paynter — Ymweliad á Rarrogate - Ysgrifenu ar Dr. Cohe i'r (í Geninen"—Cyfarfod Cyllidol Rhyl—Ail darawiad o'r parlys — Ymgynghori â Dr. Pierce. 1886— Cyfarfod Talaethol Caerdydd —Eto, yn Blaenau Ffestiniog—Oofyn caniatad i fyned yn uwchrif—Cynadledd Llundain—Sylw neillduol ar ei ymneiüduad yn Nghofnodau y Gynadledd—Ei ymadawiad â Bangor—Ei ymroddiad llafurus yn y flwyddyn 1S86 hyd 1891—Eifariüolacth. ^L/U y flwyddyn 1881 yn un gythryblus i Mr. Davies. Dechreuodd ($&i hi fel y dechreuodd lawer blwyddyn arall yn Shaw Street, Lerpwl. Yr oedd yn bresenol yn y Watchnight, y Cyfarfod Tê, a'r Cyfarfod Cyhoeddus. Arosodd yno am ddyddiau er casglu defn- yddiau at y Cofiant. Aeth oddiyno i gyfarfod Coedllai y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn. Treuliodd yr ail Sabboth yn Wrexbam, a'r trydydd yn Llanberis, ac yn y lle olaf yr oedd yn bresenol yn y Cyfarfod Chwarterol. Ond ar ol dychwelyd adref cafodd fod ei briod wedi ei goddiweddyd gan afiechyd peryglus a phoenus. Bu yn gwylio wrth erchwyn ei gwely ddydd a nos hyd foreu y 3ydd o Chwefror, pryd y gorphenodd ei thaith ddaearol am chwarter i ddau o'r gloch. Ehodd- wyd ei gweddillion marwol i orwedd yn y bedd y Mercher dilynol. Mae ei eiriau ar yr achlysur yn hynod o bruddaidd,—" 0! mor siom- edig yw trefniadau a chynlluniau dyn. Ddwy flynedd a chwarter yn ol meddyliais fy mod yn cymeryd un anwyl fuasai dyner ohonof mewn hen ddyddiau, ac yn sefyll yn ymyl i gau fy llygaid yn angeu, ond och . . . ." Ar y 25ain o'r un mis yr oedd yn dilyn gweddillion marwol ei hen gyfaill, y gweinidog ffyddlon, y Parch. John Bartley i'r bedd oer ; ac yr oedd claddu ei frodyr yn brofedigaeth chwerw iddo. lc