Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2/r &urgrrau?n Wedíeyaidd. Cyf. XCVI. MEDI, 1904. Bhif 9. Çofiapt y Parcb. ^&maeì Davies. Gan y Golygydd. Cyfarfod Talaethol y De yn Tredegar, 1881—Penderfynu mater yr " Amalgamation" —Cyfarfod Talaethol Caergybi—Cynadledd Lerpwl a'r Ymgeiswyr Cymreig— Mater y newid rhwng y ddwy Dalaeth—Cyfarfod Cyllidol Abermaw—Ei ail briodas—Adfywiad yr achos yn Mangor—Ei Ymweliad â Llundain— Cyfarfod- ydd Mai— Cyfarfodydd Talaethol Llandeilo a Portmadoc yn 1882—Cyfarfod Cyllidol Llandudno, a Chyfarfyddiad Ymddiriedolwyr y Capeli—Agoriad Capel Towyn—Cyfarfodydd Talaethol Caernarfon a Llanelli yn 1883—Cynadledd Hull. ETH i Gyfarfod Talaethol y De yn Nhredegar, Mai 23ain, a (JfijL chafodd y Parch. R. Jones yn gwmni. Dyma y Cyfarfod Talaethol cyntaf i Mr. Young i eistedd yn y Gadair. Trwy 25 o aelodau a drosglwyddwyd o Dalaeth Bristol i Dalaeth y De, a'r llwyddiant oedd ar y gwaith yn Nghwm Ehondda, yr oeddent yn cyfrif cynydd o 146. Yr oedd Trysorfa y Capeli yn gweithio yn dda, ac ar y cyfan pobpeth yn edrych yn siriol. Ond yr oedd un mater wedi codi i wres tanbeidiol, sef yr Amalgamation Scheme. Crybwyllwyd i'r mater gael ei godi i'r gwynt yn y Cyfarfod Talaethol blaenorol, ac fod Com- mission wedi cael ei apwyntio. Daeth argymhellion y Gommission gerbron,—y pwysicaf oedd fod yr oll o'r achosion yn y De, Cymreig a Seisnig, i gael eu âurfio yn un Dalaeth, gyda'r eithriad o Ystumtuen, Aberystwyth, Machynlleth, a Llanidloes, pa rai oedd i gael eu huno â Thalaeth y Gogledd. Yr oedd y Parch. Robert Jones yn dadleu yn gryf yn erbyn y cynllun, ond yr oedd Mr. Davies yn argymhell pwyll cyn ei wrthod. Ÿmddengys ei fod yn anmhenderfynol ar y mater. Ei ddatganiad pan ar y Commission oedd, "Yr wyf yn petruso beth fydd oreu." Modd bynag, gwrthod yr argymhelliad a wnaeth y cyfarfod trwy 34 o bleidleisiau yn erbyn 18—agos i ddau am bob un. Daeth y Parch. David Evans (DegarJ a chynygiad yn mlaen, sef, cais am ffurfio Wesleyaeth De, Gogledd, a Mynwy, yn Gymry a Saeson, yn un Gyn- adledd (L'onference). Y gwrthwynebydd blaenaf a chryfaf i'r cynllun oedd Mr. Davies, ac yr oedd y gwrthwynebiad yn ddigon cyffredinol i beri i'r Cadeirydd ameu y priodoldeb o'i roddi i'r cyfarfod. Yr oedd Mr. Davies yn bendant yn erbyn Cynadledd Gymreig, chwaithach un gymysg o fath yr uchod; a dyna sydd wedi peri i mi synu lawer gwaith ar ba awdurdod yr oedd y diweddar Barch. H. Price Hughes yn anturio