Skip to main content

3/r t*urgrauûn Weéfeyaidd. Cyf. XCVL GORPHENHAF, 1904. Rhif 7. Çofiaot y Parcb. 5aiWüel Davies. Gan y Golygydd. Cyfarfod Cyllidol Meìfod—Llwyddiant Mr. Daries fel Golygydd a Goruchwyliwr— Marroolaeth y Parch. D. Evans (A.)-Trysorfa Fenthycol Talaeth Gogledd Cymru —Ajiechyd Mr. Datnes—Y Drysorfa Ddiolchiadol—-Taith i'r De—Cynadledd Birmingham—Marwolaeth y Parch. Evan Puoh—Cyfarfod Cyllidol Bethesda, 1S79, 3,-c. " ______ ü@ YNALIWYD Cyfarfod Cyllidol y nwyddyn 1878 yn Meifod, Medi MS) 16— 18. Cyraeddodd Mr. Davies yno erbyn un o'r gloch dydd Llun, er mwyn bod yn bresenol yn Mhwyllgor y Capeli. Y gorchwyl cyntaf oedd ethol swyddogion. Ail-etholwyd y nifer fwyaf; ond yr oedd marwolaeth Mr. Samuel Jones, Lerpwl, yn galw am apwyntiad newydd fel Trysorydd Trysorfa y Capeli. Disgynodd y coelbren ar Mr. Thomas Lewis, Bangor, ac mae yn y swydd byth er hyny. Erbyn hyn yr oedd yr Eglwysbach wedi gadael y Dalaeth am Lundain, a rhaid oedd dewis Ysgrifenydd y Capeli, yr hyn ddaeth i ran ysgriblydd y llinellau hyn. Tra yn trafod amgylchiadau yr Ysgol Sabbothol, teimlwyd awydd i gael Cynadledd debyg i un Dinbych. Etholwyd pwyllgor i wneyd y trefniadau. Cynaliwyd hi yn y Wydd- grug. Ehoddwyd sylw neillduol i'r Llyfrfa, a chanmolid llawer ar lwyddiant y Cadeirydd fel Golygydd a Goruchwyliwr. Etholwyd pwyllgor i ofalu am y Sustentation Fund. Mercher oedd y " diwrnod mawr." Ar ol society ragorol, pregethodd y Cadeirydd ar Mica vii. 7. Pregethwyd mewn dau gapel yn ystod y dydd, ac yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r weinidogaeth yn nerthol. Galwyd sylw at y ffaith mai yn Meifod y claddwyd y Parch. Thomas Roberts, Bangor—y cyntaf a fu farw o'r rhai a alwyd allan yn Nghymru, a'r Parch. M. Thomas, hen arwr yn ei ddydd ; ond nad oedd y " gareg arw a'r ddwy lythyren " yn nodi " man fechan eu bedd." Peuderfynwyd codi beddfaen trwy danysgrifìadau. Ymddiriedwyd y casglu, a'r gweithio allan, i'r Parch. T. J. Humphreys a Mr. Jones, Bryntirion, a buont ffyddlon i'w hym- ddiriedaeth. Talwyd parch i weddiilion marwol y Parch. D. Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr, oedd i gael eu claddu yn y cyfamser, trwy benodi y brodyr O. Ll. Davies ac Ishmael Evans i fod yn bresenol yn yr angladd. Am resymau neillduol y peth olaf oedd rhanu y Grants,