Skip to main content

3/r Gurgraiûn Weéfeyaidd. Cyf. XCVI. MAI, 1904. Rhip 5. Çofiapt y Parcb. Sarnael Davies. Gan y Golygydd. Cyfarfod Talaethol 1876—Cynadledd Nottingham—Gosod Meini Coffa, ac agor Capeli—Ymweled â Llandrindod—Cyfarfod Cyllidol Dolgellau—Ymioeliad â Llundain—Piüyllgor y Llyfrfa—Cyfarfod Talaethol Gogledd Cymru—Cynadledd Bristol, &c. ______ 'N Nghyfarfod Talaethol Treffynon y cyfarfyddwn â Mr. Davies nesaf, yr hwn a gynaliwyd o Mai 27ain hyd Mehefin laf, 1876. Yr un rhai oedd y Cynrychiolwyr Seisnig a'r llynedd—Dr. Punshon a'r Parch. T. McCullagh. Gyda hyny, yr oedd y Parch. J. H. Morgan, Bradford, yn bresenol. Er wedi treulio ei oes weinidog- aethol gyda'r Seison, mae yn cyoieryd y dyddordeb mwyaf yn yr achos yn Nghymru. Cafodd groesaw calonog. Br fod naw mis wedi llithro ymaith er pan yr ymadawodd Dr. Davies â'r fuchedd hon, yr oedd darlleniad ei Farw-Goffa yn deffro adgofion a hiraeth yn ogystal ag ymdeimlad o barch ac edmygedd. Yn ngwyneb y golled, da oedd deall fod tri o'r brodyr ieuainc yn deilwng i'w cymeradwyo i dderbyn ordein- iad, ac fod chwech arall yn ymgeiswyr am le yn y weinidogaeth, ac a gafodd gymeradwyaeth unfrydol y cyfarfod. Achos arall o sirioldeb yn y cyfarfod ydoedd y llwyddiant pwysig oedd yn rhif yr aelodau— cynydd o un fil, tri chant, a dau-ar-ugain (1322), a phymtheg-cant-a- haner (1550) ar brawf. Yr oedd yn gynydd cyffredinol trwy yr holl gylchdeithiau gydag un eithriad, ond nid oedd lleihad yn hono. Cynydd oedd yn ystadegau yr Ysgol Sabbothol—cynydd o un yn rhif yr ysgol- ion, 91 yn rhif yr athrawon, a 755 yn rhif yr ysgolorion. Cynydd oedd yn adroddeb y Capeli—wyth o gapeli newyddion wedi eu hagor yn ystod y flwyddyn; a chwech o geisiadau am ganiatad i adeiladu, helaethu, &c. Nid oedd neb yn y cyfarfod yr oedd y cynydd uchod yn rhoddi mwy o lawenydd pur i'w galon na Mr. Davies. Bu derbyniad y lleygwyr i'r Gynadledd gerbron. Gofynai farn y cyfarfod ar y mater. Yr ateb a roddwyd oedd, ei fod yn cymeradwyo y cynllun heb ymrwymo i gymeradwyo ei holl fanylion, ac hefyd ei fod yn gobeithio y gallai y Gynadledd oresgyn yr holl anhawsterau cyfreithiol oedd ar y ffordd, a