Skip to main content

2/r GurgraijOn Weóíeyaidd. Cyf. XCVI. EBRILL, 1904. Bhif 4. Çofiarjt y Parcb. Saroael Davies. Gan y Golygydd. Cyfarfod Talaethol 1875—Cystudd Mr. /Javies— Cynadledd 1875, a'i Etholiad i'r Cant—Ei benodiad i'r Lh/frfa—Symud i Fangor, Medi, 1875—Y sefyllfa ynanffafriol— Cyfarfod Cylhdol Llandudno—Agoriad Capel Flint—Gioeithiau Aubrey, Src. _______ ^W/TAWRTH Sfed, yr oedd yn y Rhos yn nglyn â gosod cof-feini y jjM capel newydd. Y casgliad yn £121. Dranoeth yr oedd yn Helygain gyda'r Architect yn ymgynghori pa fodd i adgyweirio y capel. Ar y 24ain, ysgrifena, "Bangor—Pwyllgor Capeli—pasiocapeli Pontcadfan, Birkenhead, a Chaernarfon.'' Treuliodd Sul y Pasc yn Galltmelyd (Rhyl), ac erbyn y Sabboth dilynol yr oedd wedi bod yn Nghyfarfodydd Chwarterol ei gylchdaith ei hun, Birrningham, Hanley, a Stockton. Pregethodd dair gwaith yn Spennymoor y Sabboth, lle yr oedd " tyrfa fawr o Gymry, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn gwenu." Mai laf, ysgrifena, " Clywed heddyw am farwolaeth y Parch. M. Thomas—y cadarn wedi cwympo— help i barotoi i'w ddilyn ;" ac ar y 5ed, " Claddu Mr. Thomas—nid oedd y cynulliad mor luosog ag y disgwylid." Pregethodd y Sulgwyn yn Penmachno, ac elai oddiyno i Gyfarfod Talaethol y De yn Aberystwyth, yr hwn oedd yn dechreu dydd Mawrth, Mai y 18fed. Mr. Davies oedd yr unig gynrychiolydd o'r Gogledd. Yr oedd Dr. Davies yn y dref, ond, oblegid nychdod, yn analluog i fod yn yr eisteddiadau. Yn mhen pymthegnos ar ol hyn, goddiweddwyd ef gan un o drallodion chwerwaf ei fywyd. Bu farw ei briod, yn sydyn iawn, tra ar ymweliad â'i hardal enedigol, ac yn nghanol ei nychdod yr oedd gan y Dr. ì ddilyn ei gweddillion marwol i dỳ'r bedd. Ar wahan i'r gwaith rheolaidd y mae cryn ddyddordeb yn perthyn i hanes y cyfarfod hwn. Yma yr oedd y Parch. D. 0. Jones yn ymgeisydd am y weinidogaeth, ac er ei fod yn cael ei arholi yu lled drwm gan y Cyn-lywydd, sef y Parch. G. T. Perks, M.A., aeth trwy yr argyfwng yn Uwyddianus, a chafodd gymeradwyaeth uufrydol y cyfar- fod. Yma, hefyd, y rhoddwyd caniatad i adeiladu Capel Cofifadwriaethol y Parch.T. Aubrey; ac er y drafferth a gafwyd ì'w osod mewn