Skip to main content

2/r fìurgrauDn Wedíeyaidd. Oyf. XCVI. IONAWR, 1904. Rhip 1. Çofiaot y Parcb. Sarwüel Davies. GAN Y GOLYGYDD. Cyfarfod Talaethol Bangor yn 1869—Parch. S. R. Hall—Parch. W. W. Stamp— Sefyllfa yr Achos — Y Bregeth ar Grefydd Deuluaidd—Cynadledd 1869—Ei Symudiad i Gaernarfon—Y Parch. R. T. Owen yn Gydlafurwr—Ymdrechion y ddau—Marwoìaeth Mr. Owen—Y Parcìi. E. Humphreys yn ei ddilyn — Cyfarfod Talaethol Dinbych yn 1870 — Cynadledd Hanley yn 1870—Nodiadau Mr. Davies— Cyfarfod Cyllidol Rhyl—Ei Lythyrau at ei blant—Cyfarfod Talacthol Lerpicl yn 1871 — Cyfarfod Cyllidol Rhuthyn—Cyfarfod Talaethol Llanfyllin yn 1872 — Cynadledd lS72—Llythyr Mr. Davies. jV|J3 HAID ymatal rhag cofnodi dim am lafur dyfal Mr. Davies yn \ nechreu y flwyddyn 1869, yn ei gylchdaith, ac allan ohoni, a symud at Gyfarfod Talaethol y flwyddyn hono, yr hwn a gynal- iwyd yn Mangor, Mehefìn yr 8fed, a'r dyddiau dilynol. Y Parch. Samuel Eomilly Hall, Llywydd y Gynadledd, a'r Parch. W. W. Stamp, oedd cynrychiolwyr y Gynadledd. Dyn cymharol fỳr, crwn, gyda gwyneb agored a thalcen uchel oedd Mr. Hall, yn Uawn bywyd ac yni, braidd yn sydyn a chwyrn yn ei symudiadau. Yr wyf yn ei gofìo yn dda yn Nghynadledd Shefîield, yn y flwyddyn 1863. Cymerai ran helaeth yn mhob trafodaeth. Eisteddai yr ochr arall i'r capel i Dr. Eigg, ac yr oedd y ddau yn croesi cleddyfau yn lled fynych. Yr oedd yn deall Trefnyddiaeth yn dda, ac yn lled eiddigus dros hanfodolion y Cyfundeb. Perchenogai gryn lawer o dda'r byd, ac yr oedd yn ŵr caredig a hael. Teithiai yn Manchester yn yr adeg y claddwyd y Parch. E. Morgan, ac er fod yno nifer led luosog ohonom yn bresenol ar yr achlysur, mynodd ein harwain oll i gael tamaid o ymborth, a dygodd y draul. Ond ar ei ymddangosiad cyntaf yn eisteddiadau y Cyfarfod Talaethol yn Mangor, yr oedd braidd yn chwyrn. Yn lle cyfeirio at Ysgolion St. Paul's, aeth i gyfeiriad Capel Horeb, fel ag yr oedd yn ddiweddar yn gwneyd ei ymddangosiad. Yr oedd hyny yn groes i'r graen gydag ef, ac yr oedd dipyn yn anfoddog. Modd bynag, ar ol i Mr. Davies gael hamdden i ogleisio gronyn ar ei natur dda, daeth i eithaf tymer, a llanwodd ei gylch gydag urddas teilwng o'i safle. Yr oedd Mr. Stamp yn gynefln â ni, ac yn ein deall yn dda; bu yn llawer