Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3Jr ^uryratûn Wed/eyaicfcf. Cyf. XCIV. MEDI, 1902. Ehip. 9. Çbarles Kîpgsley, TAD SOSIALAETH GRISTIONOGOL. GrÀN Y Pahch. D. Gwynfryn Jones. Qtë II. AES Waterloo a chyflafan St. Pedr, Manceinion, oeddent y pethau olaf y soniwyd amdanynt yn nglyn â'r testyn hwn yn Eurgrawn Gorphenhaf. Crybwylliad yn unig wnaed, rhaid myn'd rhagom yn awr ac ymhelaethu, esponio'r berthynas rhwng Waterloo dros y culfor a Peterloo yn Nghaerhirfryn. Am nad edrychent yn îs na'r wyneb, fel llawer eto, yn mlwyddyn Waterloo, udai'r gwladgarwyr carth nad oedd terfyn ar nerth ac adnoddau Prydain. Estynent eu bysedd at ein cyllid a'n trafnidaeth. " Yn 1792," meddant, " nid oedd ein cyllid ond £19,258,000 eleni, yn 1814, nid y w yn llai na £105,698,000, ac am ein hallforion yn yr un amser, onid yw y rhai hyny wedi treblu ?" Addefir gwirionedd y gosodiadau, eto rhaid edrych yn ddyfal, nes canfod heibio'r edrithiol a'r arwynebol. Nid yw pobpeth bob amser mal yr ymddangosant. Gan nad beth ddywed anogwyr rhyfel, yn mhob oes, hoced gyfa, medd hanes, yw'r llwydd ddeillia trwyddo. Porthi cenedl ar dreulion rhyfel, sydd, ebai hen air, unwedd a phorthi ci ar ei losgwrn. Er fod gwladgarwyr goludog cyfnod Waterloo wedi cyduno i dalu dau swllt yn y bunt o dreth chwanegol, eto ar ysgwyddau'r werin, gwerin oedd heb ei geni hefyd y pryd hwnw, y daeth pen tryma'r baich i orphwys. Nid oedd y draul dalwyd trwy'r dreth newydd, ond megys diddym, yn gyfymyl â'r ddyled osodwyd ar ysgwyddau'r cenedlaethau ddeuent. Rhagllaw ar ol Waterloo, bu raid i'r genedl ymgynal oddidan ddyled o £860,000,000. Dyled â'i llôg blynyddol yn £32,000,000. Telid y llôg yma gan mwyaf trwy dollau ar angenrheidiau bywyd. Gochelwn gri y rhai alwant eu hunain yn amherodrolwyr. Yr allforion eto, nid oedd cynydd yr allforion ond peth am enyd, cynyrch anrhaith rhyfel. Yn gymaint taw ar y Cyfandir y cerid y rhyfel yn mlaen, dyryswyd masnach yno, a rhaid am y tro edrych bawb i Brydain drigai mewn llonyddwch, ond wedi i'r rhyfel beidio, daeth pethau i'w cyflwr lc