Skip to main content

YR EÚRGRAWN WESLEYAIDD. H YD RE F, 1875. COFIANT JOHN ROBERTS, GLaNYMOR ; ÜN O FLAENORIAID YR EGLWYS WESLEYAIDD YN CAERGYBl. Er mwyn pobpeth, Mr. Gol., gadewch í rai ychydig o le yn yr Eurgrawn i gadw coffadwriaeth am yr hen gyfaill cywir EWn o Gaergybi. Mae amrai o gyfeillion—hen gyfeillion pwysig, a rhai îled hynod—wedi myn'd i'r nefoedd o eglwys Wesleyaidd Caergybi, ac heb ond ychydig iawn o son amdanynt yn yr Eurgrawn. Dyna'r hen Grace Jones a'i gwr ; yr hen William Tbomas a'i wraig; yr hen Doraas Jones, y Glo; a'r hen Mrs. Hngbes, 'Refail Bach," gwraig yr hen batriarch William Hughes (yr hen glocbydd), a Uawer heblaw hwy. Yr oedd rhai o'r rhai hyn yn rhai o'r hen bioneers, yr heu deulu fu yn gweithio eu ffordd trwy ddyrysni a tbrwy anhawsderau wrth glirio a sefydlu achos mawr, dwyfol fawr, y Wesleyaid yn y wlad. Maent erbyn y blynydd- oedd byn wedi myn'd yn anaml iawn. Nid oes yn Môn yn awr ohonynt ond rhyw chwech neu saith. Maent oll yn biir hawdd eu hadnabod, lle bynag y ceir hwy—rhyw neillduolion {peculiarities) yu eu meddwl, a mouîd eu hys- brydoedd; stamp yr oes a fu a'r brWydrauy daethant drwyddynt, nad ydynt ynom ni eu holynyddion. Pan y bydd Duw yn" codi dynion i wneyd rhyw waith, bydd yn eu cymhwyso, eu ffitio i wneyd y gwaith hwnw; a phan y bydd dynion wedi bod ystod hir mewu rhyw orchwyl, ac o dan galedi, mae hyny yn gosod ei argraff ar y dynion hyny. Felly y gwelais bob un o'r hen re- volutionists yn America; ac felly cefais yr hen frodyr a'r hen chwiorydd anwyl yina yr wyf yn son amdanynt. Treúliais lawer awr hapus i wrando ar aml un ohonynt yn myned dros helyntion brwydrau yr hen oes 0! y profedig- aethau a'r llafur y daethant trwyddynt'ŴŴ ymdrechu trwy anhawsderau sef- ydlu achos ac athrawiaethau y Wesleyaid yn ein tir. Ond yn awr mae y rhan fwyaf ohonynt wedi cael cadw noswyl, a myned i feddianu y wlad yr hiraeth- asant lawer amdani; ac mae y gweddil) ohonynt, y rhai sydd yn aros hyd yr awr hon, fel wedi gorphen eu gwaith, ac fel y darlun yn Taith y Pererin, a'u gwisg yn wen, yn gorphwys ar lan y dwr yn dysgwyl eu hadeg i gael myned trwodd. Ond cyn myned, maent fel y Count Cavour yn Italy, wedi cael rhoi cerbydau y diwygiad yn y fath fosiwn fel y maent yn gweithio eu ffordd yn nat- uriol wrth eu pwysau eu hunain, pan y maent hwy yn llonydd yn y bedd. Meddyliwn am ein blaenoriaid, " ffydd y rhai dylynwn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwy." Nid oedd y brawd J. Roberts y soniwn amdano o hen wreiddiau cychwyn cyntaf aehos y Wesleyaid yn Caergybi, fel yrhen W. Thomas ; Mrs. Hughes, Refail Bach ; ac ereill y crybwyllais aradanynt. Rhyw bymtheg mlynedd cyn marw y cafodd ef y fraint o fod mewn undeb â'r achos mawr. O ! cyn lleied o'n hoes sydd yn cael ei roddi yn ngwasanaeth Iesu Orist, yr unig chance am byth i ni gael mantais i ddangos rhyw barch iddo. Fel na buom yn y byd yma erioed o'r blaen, felly ni ddeuwn yma byth eto. Ond bu y brawd J. Roberts yn dra flyddlon wedi iddo ddyfod at y gwaith, a gwnaeth lawer o les ; 3 i ' Oyf. 67