Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EÜRGRAWN WESLEYAIDD. M E H EF! N. 1875. COFIANT JANE, ANWYL BRIOD WILLIAM HTJGH EVANS, GWEINIDOG WE8LEYAIDD. (Parhad tudal 138.J} 0 Rhtl symudasom i Langollen. Gafodd fy anwyl wraig well iechyd ar y cyfan yn y.lle hwn nag yn y Ehyl; ond yr oedd m theulu yn lluosogi, a'i phryder a'i gofal hithau yn mwyhau. Yn yr haf diweddaf i ni fod yno, aeth ein bachgen hynaf i'r ysgol i Wòodhouse Grovei Teimlodd ei fam gryn fesur o hiraeth a phryder ar y pryd, ond gwnaeth hyny fel arfer yn hynod o ddystaw. Ymdrechai wneyd hyny er fy mwyn i. Éi fynasai fy rhwystro ar fy ngwaith, na thrallodi fy meddwl, ac felly cadwodd ei hiraeth yn ddys- taw iddi ei hun, a gweithredai o dän ly wodraeth: awydd i'r bachgen gael y manteision uwchaf i barotoi ar gyfer bywyd. Clywais Miss Jones, Éegent Street, yn dyweyd fwy nag unẃaith fod Ue gwag ìíagh John yn y capel y boreu Sul cyntaf wedi iddo fyneáŵ ysgol w##ÌBÌ^orj^^^ yn llwyr. Mae yndebyg nad oes ond mamỳ a hono yn fam grefyddolj a.fedr',ddychymygu a dirnad ei meddyliau a'i theimìädaú ar y prydt 'Ýr wyf fi, bêth bynag, yn ildio. : . ' ì . Yn Llangollen hefyd yr oedd ei phrófiad crefỳ'ddôlaîi'byiisryd crefyddol ar gynydd, a'i fiyddlondeb erefydŵl yn Ŵoiball. • ÇjéMmy, Hylhyr canlynol oddiwrth Mr. Morris Robertéj el.blàenor; tìrayn Llahgc|pte'r-W Fx Anwtl Feawd, ', i-v; ■_" ' J ' * '"., •..,*'■ ;' " Meddyliais am yagíiriîeäîi atoclí yn .mhetU^ eyn hýii, ŷmâ ýr oeddwn yn ofnî cnwanegu at eich gofid wrth ddẃyn yn mláen adgofioni âîn eiéh 'ánwyl briod. Mae fy nheimladau wedi bod yn ddrylliog iäwn ar àdegau wftìí'féddwl "am yrystorm fawr a'cn cyfarfyddodd, ac yn fwy felly wrth gofio y tair blŷn*edd*ý cëfais gymaint o gymdeithas werthfawr a gwir grefyddol eich anwyl briod felaelodb fy rhestr. Mae yn dda genyf allu tystio gyda meddwl tawel amdani, mai Israeliad yn wir oedd hi heb ddim twyll. Yr oedd ei chyfeillach yn anwyl gan yr holl Restr, a mawr oedd ein gofid pan glywsom am ei hangeu. Yr oedd hyfryd wleddoedd Seion bob amser yn werthfawr ganddi. My- nych y byddai yn dyweyd yn dda, ac yn canmol yr ystafell a'r weddi ddirgel; a phan y byddai amgylchiadau yn ei hamddifadu o gael cyfarfod yn y Rhestr, fod ei Thad nefol yn ei chlywed yno, ae yn ei bendithio. Weithiau dywedai ei bod yn teimlo yn lled isel ar y ffordd i dý yr Arglwydd; ond wedi bod yno am ychydig yn dysgwyl wrth byst ei byrth Ef dywedai, " Da yw i mi fod yma." Yr oedd ei phrofìad bob amser yn ddwys a difrifol, ac yn dangos fod ei hymddiried yn unig ac yn hollol yn haeddiant y gwaed a dywalltodd ein Hiaehawdwr Iesu Grist trosti. Byddai genym yn aml Gyfarfod Gweddio yo ein Rhestr, pryd y byddai y chwiorydd yn cymeryd rhan mewn cynal moddion. Yn y cyfarfodydd hyn byddai eich anwyl briod yn dangos y parodrwydd mwyaf i gymeryd rhan yn y gwaith; a llawer gwaith y cawsom deimlo fod yr Arglwydd yn ein canol yn ein bendithio yn yr adegau hyny. Nis gallaf annghofio y Oyfarfod Eglwysig cyffredinol olaf a gawsom cyn eich ymadawiad, pan y cododd ein hanwyl chwaer i fyny i adrodd ei phrofiad, ac y tystiodd ar g'oedd yr eglwys am y cyfarfodydd gwerthfawr a melus a gafodd ei henaid • yn y room fach acw,' meddai, gan gyfeirio at y class-room, lle y byddai ein Rhestr yn cyfarfod. Anwyl Frawd, yr oeddem yn ystyried eich priod hoff yn grist- ion dysglaer. Byddai rhai o'r cyfeillion bron ag eiddigeddu am na buasent wedi cyr- aedd mor uchel i ffafr Duw fel ag i allu llefaru mor glir a hi am waith gras ar eu cyflyr- au. Mae yn dda genyf ddeall eich bod yn cael nerth gan Dduw yn y tywydd garw i gyd. Galìaf finau ddyweyd, yr un modd, fod colli fy anwyl Jane [un o'i ferchad a fu farw tua'r un adeg a Mrs. E.] ar ol blynyddoedd o wendid, wedi fy archolli ynfawr; 2 I Oyp. 67.