Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EÜRGRAWN WESLEYAIDD. EBRILL, 1875, COFIANT JANE, AffWYL BRIOD WILLIAM HTJGH EYANS, GWEINIDOG WESLEYAIDD. Ya wyf wedi eistedd i lawr i dynu ardeb un ag oedd yn gu îawn genyf, ac yn anwyl iawn ohonof. Ond mae fy llaw a'm calon yn crynu! Mae hiraeth yn cysgu yn ysgafn iawn : mae yn bur hawdd ei ddeffro, ac wedi y deffry mae yn gyffredin yn wylo llawer cyn ymoUwng i gysgu drachefh. Oherwydd hyny yr wyf wedi bod yn y misoedd a . aethant heibio lawer gwaith—do, lawer gwaith yn dymuno ac yn crefu ar adgofion hapus y dydd- iau dedwydd gynt i aros yn llonydd a dystaw, rhag.iddynt ei ddeffro ! Ond heddyw mae yn wahanol—mae genyf heddyw i .wahodd a chroesawi yr adgofion hyn. Rhaid i mi ddwyn allan y Beibl a'r Llyfr Hymnau sydd wedi bod am fisoedd o dan glo, a throi eu tudalenau, a dal sylw ar y marciau sydd ynddynt, ac rhaid i mi a*or y coffr Ue mae yr " Arwyddion," a'r Dyddlyfr, a'r hen lythyrau yn cadw, ac edrych drostynt. Mae hyn fel ped agorid pen yr argae! ond n.id oes mo'r help! Ehaid i mi ymwroli! Pe buaswn am arbed fy nheimlad, buaswn yn ymesgusodi, ond mae genyf i gyflawni dyledswydd—ae mi a'i gwnaf, boed y gost y peth. y bo. Mae fy anwyl Jane—anwyl, meddaf, filiwn o weithiau dcosodd—yn y bedd du, oer, unig, yn mynwent Dolgellau, er's mwy na thriarddeg.ö fìsoedd, ac mae ei naw plentyn hyd yn hyn ar dir y byw. Yr oedd yr hynaf ohonynt yn rhy ieuanc i ddeall ac adnabod gwir. gymeriad ei fam; ac mae hyd yn oed yr ieuengaf~y bachgen bychan pengrych anwyl a adawodd yn amddifad cyn iddo fod. yn bedwar-mis-arddeg oed, ac a fu am fisoedd cyn hyny yn engrafft brudd o y gall gwraig annghofio 6Ì phlentyn sugno, ac heb fod hyny yn fai arni—mae efe, os bydd byw, yn sicr o gael gwybodpa fodd y bu yn y diwedd. îíid yw y byd hyd yma wedi dysgu cadw pethau felly. Yn ngwyneb hyn,pe na buasaidim arall yn fy nghymhell, mae arnaf ddyled i fy mhlant i adael ar gof bortread cywir—mor gywír ag y mae yn bosibl i mi ei wneyd—o'u hanwyl fam. Yr oedd yn rhy dda i gael ei hannghofio; ac yn llawer iawn rhy dda i gael ei chofio yn unig yn ngoleu yr amgylchiad chwerw, drallodus diweddaf, pan na wyddai pa beth yr oedd yn eí wneuthur. Merch ydoedd fy anwyl briod i Anthony a Dinah Edwards o Helygain, sir Fflint. Mae ei mam yn aros hyd y dydd hwn, eithr ei thad sydd yn huno yn y dystaw fedd er's mwy nag wyth mlynedd o'i blaen. Ganwyd hi ar y 18fed o fis Gorphenhaf, 1885. Hi oedd merch hynaf— plentyn cyntaf ei thad a'i mam. Dywedir am rai plant eu bod yn dyfod i'r byd gyda llwy arian yn eu genau. Ni chafodd hi y frainthonc—ac nid bob amser mae hyny yn fraint. Nià oedd ei thad yn berchen da lawer; ond yr oedd ganddo iechyd, a chymeriad, a medr, ac ỳni, a hunan-barch, a gwraig dda, ac felly yr oedd ganddo fywioliaeth gysurus, a chartref siriol a dedwydd iawn. Daeth Jane fach yn bur fuan wedi iddi ddechreu cerdded yn " eneth ei thaid"—o du ei mam. Ond cludwyd ef ì dir ei hir gartref cyn fod gan ei wyres fach ond cof plentyn amdano. Ac eto yr oedd ganddi rywbeth i'w ddyweyd—« Dyn mce iawn oedd fy nhaid Harries—hoff iawn bob amser ~ u Cyf. 67.