Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLITH YR EEK WYLIEDYDD. 471 yn aîcr e enill geroh a hoffder pawb. Yr eedd yn naturiol felly mor agored a'r dydd, mor «riol a'r blodau, mor serchog a chariad ei hun, ac mor bur a'r goleuni; yn bur ei egwyddor, yn bur ei fuchedd—uwchlaw amheuaeth bob amser; a thrwy y cwbl, yr oedd gartref ar unwaith yn ymddiried a serch pawb yr ymgymysgai â hwynt. Gwelwyd hyny ddydd ei gladdedigaeth; a gwelsid efya amlycach o lawer oni buasai i'r tywydd droi allan mor hynod o anffafriol. Auf>n>ch y gwelwyd y fath ddiwrnod. Gwlaw, gwlaw, gwlaw ! Y diwrnod tebycaf yn bosibl i'r diwrnod y claddwyd y Parch. Henry Rees, coffa da amdano! Ond er gwaethaf pob peth, yr oedd toif enfawr o bobl o bob sir yn Ngogledd Cymru, o Fôn ac Arfun yn benaf, mae'n wir, ond yroedd cynrychioL wyr o holl siroedd y Gogledd hefyd wedi ymgasglu yn nghyd—rhai o dros drigain milldir o ffordd, a Uawer o Gaer, Liyerpool, Birkenhead, &c, at hyny, a'r oll i ddangos y parch a deimlid i, a'r cariad a ffynai at, yr anwyl R. T. Owen. Ac yr oedd hyn oll wedi ei enili mewn deng mlynedd o amser! Nid oedd ein cyfaill hoff ond gweinidog ieuanc, ond enillasai barch henafgwr; nid oedd ond braved yn yr efengyl, oud cafodd anrhydedd tad. Edryched y Goruchaf yn drugarog ar ei weddw drallodus, a thrugar- haed wrth ei Seion hefyd, trwy godi Uawer ereill o gymeriad ein brawd ymadawedig i wylio a gweithio yn ei Winllan fawr. Yr wyf yn chwanegu yma ddau ddernyn barddonol, un yn Seisneg, gan Mrs. Francis, Caernarfon, merch hynaf Hugh Humphreys, Ysw., Hendregaerog,* y Uall yn Gymraeg gan ein cyfaill awengarIoan Glan Menai. " Y SEREN FACHLÜDODD. " Ti fyd, ydwyt lawn o helbulon, Yn llawn siomedigaeth a chroes ; O hyd ceir dy oerllyd awelon Yn gwywo gobeithion ein hoes. Fel seren yn dechreu ymddangos I'r teithiwr, yn nghanol yr hwyr, Ac yna yn nghanol ei obaith Yn cilio o'r golwg yu llwyr. Ond heddyw, er cwympo yr enwog, A'n hoffus Weinidog mewn hedd, A cholli y seren fwyn serohog, Dan dywyll oer leni y bedd; O Seion, sych ymaith dy ddagrau, A chyfod dy olwg i'r nen— Mae Owíns yn nghanol yr hsuliau, Yn ymyl yr orsedd fawr wen. Io&m Glah Mbnai. THE WIDOW'S EESIGNATION. Linet tuggMted by the Death ofthe Mev. B. T. Owen, Wesleyan Minitter, Portdinorwic. My earthly guide—my own—my pride, Round whom each tendrü of my woman's heart Had twined itself, death's fatal tide Hath swept away. His active part In life work scarce begun. Every joy That earth could give—every gif t That love could offer, without alloy, Were his; and he is gone! I lift To heaven my bleeding heart, and through my tears I dimly reaîd " God's love " inscribed upon the cross 1 would refuse, claspiug it to me, it appears To brighten, for shining through my own dark loss, I see my husband's gain, peaceful and fair, Death's shadows merged m light eternal, he Haa heavenly treasures—^joint heir with Christ, there My " lost is found," and waits to welcome me. Maesydre, Carnarvon. Lizzie Peancis. Fowell . aodi i, welwoh oh wi, y n