Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

£60 HÀNESION. OANED Chwefhor 8, 1870, yn Wernfechan, Rhuthin, mab i briod Mr. William Owen. Enwyd ef yn John Owen. I Ioan Owen, Hir oeslawen, Anef addien I noflo iddi. J J. Clocàenoo. Chwefror 26, merch, yr hon a elwir Mary, i briod Mr. Edward Foullces, Fron Farm, ger Coed- poeth. Bedyddiwyd hi Ebrill laf, 1870. Mawrth 3, merch i briod Mr. Thomas Lloyd, ya- gol-feistr, Thomas Town, Merthyr. Mawrth 6, mab i briod Mr. Walter Jones, Mer- thyr. Mawrth 30, dwy ferch i briod Mr. Thomas Fos- ter, Mason, Merthyr. E. D. E. Ebrill 17, priod Mr. R. Jones (Lltci/dicyn), 6, Tower Terrace, Dinbych, ar fab. EbriU 20, mab i briod y Paroh. Ph. Williams, Newmarket. Bedyddiwyd ef dan yr enw John Owen. HrDREF-FAB. PRIODWYD, Mawrth 31, yn Zion, capel y Wesleyaid, yn Rhyl, gan y Parch. H. Jones, Le'rpwl, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E. Pugh, Dinbych, Mr. Richard Grifflth, (pi-egethwr cynorthwyol,) Watchmaker and Jeweller, mab hynaf Mr. D. Grifflth, (Clwydfardd,) â Miss Hannah Jones, Brig-y-dòn, Rhyl, merch y diweddar Richard Jones, Yaw., Craig-y-dòn, Llanddulas. Mai 6, yn nghapel y Wesleyaid, Llanidloes, gan y Parch. H. Parry, Mr. Richard Jones, Cwmdy- lluan, â Miss Mary Lewis, Graiglas, ger Llanid- loes. Ar y lOfed o Fai, Mr. George Francis, o Doug- las, Ynys Manaw, mab y diweddar Absalom Fran- cis, Ysw., Old Hall, Helygen, Sir Fflint, â Mary Elizabeth, merch hynaf H. Humphreys, Ysw., Hendregaerog, Caernarfon. BU FARW, Ionawr 23, 1870, yn Towyn, Meirionydd, Cylch- daith Dolgelley, Miss Üorothy Owen. Yr oedd wedi bod yn aelod diargyhoedd a ffyddlon o'r gymdeithas We»leyaidd am yr ysbaid o 29ain o flynyddoedd. Yr oedd yn hysbys i luaws o'n gweinidogion, trwy fod ei thŷ wedi bod yn gartref croesawus a chysurus i amryw ohonynt. Gellir dyweyd amdani bod " iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Bu farw a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Yr oedd yn Israeliad yn wir, yn yr hon nad oedd dwyll. C. N. Mawrth 16, yn 32, Sun Street, Birkenhead, Ro- bert Arthur, yn saith mis oed, unig blentyn Mrs. Jane Edwards, gweddw y diweddar William Foulkes Edwards, gynt o 54, Egerton Street, Liverpool. Bu ef farw Rhagfyr 23, 1869. Yr yd- ym yn dysgwyl gweled coffadwriaeth amdano yn yr Eurgrawn yn fuan. R. H. Mawrth 19, yn 72 mlwydd oed, Mrs. Leab Bow- en, diweddar o Dreswni, ger TŷddcwL Rhoddodd ei hun i fyny i Dduw a'i bobl yn moreu ei hoes gyda'r Wesleyaid. Yr oedd ei throedigaeth yn wirioneddol, ei bywyd yn ddichlynaidd, a bu farw yn yr Arglwydd. J. J. Mawrth 23, yn 10 mis oed, Jessie Augusta, plentyn Mr. a Mrs. George Owen, Beehive, Tŷ- ddewi. " y rho»yn peraidd, iraidd, «wych, H«b fewyrch gwympai' lawr; A Hawer erinbren ar y rhos, Yn aros hyd yn awr." Mawrth 29, yn 60 mlwydd oed, Mary Jones, aa- wyl briod William Jones, un o'n blaenoriaid yn Dinasmawddwy. Bu yn proffesu am 42ain mlyn- edd. Cafodd gystudd maith a nychlyi. Ymwel- ais â hi lawer gwaith yn ystod ei chystudd, a thystiai yn wastadol ei bod yn gwbl ymostyngol i ewyllys ei Harglwydd, ac yn ymorphwys yn llwyr a llawn ar aberth y groes. Rhai o'i geiriau olaf oeddent, "Neb ond Iesu Sristyn awr. Caf ei weled fel y mae, a bod am byth yn debygiddo." Claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni y dydd Gwener canlynol yn mynwent Mallwyd. W. T. Mawrth 29, yn 39 mlwydd oed, Mrs. Lewis, priod Mr. Jonn Lewis, Egerton Street, Gwree- sam. Cymerodd yr amgylchiad difrifol le yn bur ddisymwth, ar enedigaeth plentyn. Claddwyd hi y dydd Llun canlynol yn mynwent Rhos-ddu, pryd y daeth nifer lluosog o gyfeillion o amryw fanau yn Nghylchdaith Coedpoeth, i ddangos eu parch iddi h'i a'i phriod galarus. Gadawodd deulu Uuosog ar ei hol, a rhai ohonynt yn bur ieuanc ; ond hi a symudwyd mewn hyder gref am fyd gwell. Yr oedd Mrs. Lewis o gymeiiad cre- fyddol gloew, ac yn hynod o'r anwyl gan ei chyf- eillion. Cynalied Duw ei phriod galarus yn ei ddwfn drallod. J. B. Ebrill 15, Mr. John Lewis, Plasonn, ger Llan- santffraici, Cylcbdaith Llanfyllin. Bu ein cvfaill ymadawedig yn arddel crefydd am dios älain mlynedd. Bu yn flaenor gofalus ac yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy am lawer blwyddyn. Fei cyfaill, yn enwedig i'r pregethwyr, yr oedd yn gywir a diragrith. Dyoddefodd gystudd maith yn dawel a dirwgnach, gan ddywedyd yn wastad, " Eicyllys yr Arglwydd a icneler." Cefais gyfieus- dra i ymddyddan gydag ef lawer gwaith yn ystod ei nychdod. Byddai bob amser yn mwynhau moddion gras. Credwn fod pob peth yn dda er- byn y cyfnewidiad mawr. Ymadawodd â'r fuch- edd 'hon prydnawn Gwener y Groglith, yn 53 mlwydd oed. Pregethais ei bregeth angladdol nos Sabboth, Mai laf, oddiar Gen. v. 24. Gwilym Ddu o Foh. Ebrill 18, yn 39 mlwydd oed, Ann Evans, anwyl briod David V. Evans, Ferndale, Cylchdaith Tre- herbert, Morganwg. Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid am lawer o flynyddoedd. Bu mewn cystudd trwm am flynyddoedd, ond dy- oddefodd yn dawel, gan roddi pwys ei hysbryd ar yr Iawn. Bum gyda chyfeillion yn ymweled â hi droion yn ystod ei maith gystudd, ac yr oedd yn gallu tystiolaethu i ni, " fod iddi gymdeithas â'i Tad, a'i bod yn cael llawer o bleser yn y modd ag ydoedd." Yr oedd wedi ymroddi yn hollol i ewyllys ei Thad nefol amser cyn ymddaítodiad ei phabell briddlyd. A phan yn gadael y llawr a'i helbulon, rhoddodd dystiolaeth eglur ei bod yn myned i'r wlad " Lle nad oes poen na marw mwy." Ebrill yr 21, cludwyd y rhan oedd farwol ohoni gan luaws o gyfeillion i'w chladdu yn mynwent Llanwyno, ger Ferndale. Gweinyddwyd ar yr achlvsur gan y Parch. R. Owen, ein gweinidog. Bendithied Duw yr amgylchiad er lles i'w phriod a'i phlentyn, a thynu y byddont ar ei hol. T. J. P. Mai 12, Mrs. Lewis, anwyl briod Mr. Wílliani Lewii, Masnacbydd, Tregaron, yn26mlwyddoed. Cafodd Mrs. Lewis ei dwyn i fyny o'i mebyd yn eglwys y Wesleyaid yn y lle; ac yr oedd bob am- ser yn hynod o ddiwyd a ffyddlon gyda'r achos erbyn hyn sydd wedi talu yn dda iddi. Heddwch i'w llwch; a bydded gofal a bendith Duw dros, ac ar ei phriod galarus, a'i merch fechan, nad yw eto ond newydd agor ei llygaid yn myd y galar a'r gofld—dim ond dwy wythnoB oed. « Dnn."