Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURCŴAWN WESLEYAIDD. MAI. I 8S5. BYWGRAFFIAD MES, MARGARET EDWARDS, ABEBGWIDOL, CYLCHDáJTH MACHTNLLETH. GAN Y PARCH. WILLIAM ROWLANDS. Agos i ddeg-a-thrigain o flynyddoedd yn ol, yr oedd teuln o'r enw Lewis yn trigianu yn y Maesraawr, yn tnblwyf Llaudinam, yn Sir Drefaldwyn, a changen ohonynt wedi ymsefydlu o'r tu arall i afon Hafren, yn Mhenporfa, yn mhlwyf Llanwnog. Yr oedd y teulu hwn yn mhlith y rhai cyfrifolaf yn y parthau hyny o'r wlad, gan eu bod yn rhydd-ddeiliaid ar faesydd llydain a gwastadedd ffrwythlon glanau yr afon uchod. Yr oeddent hefyd yn deulu crefyddol, yn aelodau o'r Cyfundeb Wesleyaidd, gan y rhai yr oedd cyradeithasau eglwysig bychain yn y cylchoedd hyny er amser Mr. Wesley. Ymtefydlodd Mr. T. Lewis, eu mab hynaf, yn Mhenporfa, ac efe ydoedd dad i Mrs. Morris, gwraig y Parch. John Morris, un o'r Pregethwyr Cymreig cyntaf. Priododd eu merch henaf, Mary, â Mr. John Jones, o'r Cwmbychan-mawr, yn mhlwyf Darowen, yr hwn oedd yntau hefyd yn byw ar ei etifeddiaeth dreftadaethol ei hun. Dygasid Mary Lewis, o'r Maesmawr—yn awr Mrs. Jones, o'r Cwm- bychan-raawr—i fyny yn Wesleyad o'i hieuenctid. Seisneg yn benaf oedd iaith tŷ ei thad, a dan y weinidogaeth Seisueg yr oeddeut wedi arfer gwrando ; canys gweinidogion Seisneg yn unig oedd yu pregethu i'r cyfundeb y pryd hyny, ac felly nid oedd eu gweinidogaeth yn cyraedd ond y rhanau hyny o'r wlad a ddeallai y dafodiaith hono. Yny fl. 1803, sefydlwydy Parch. Stephen Garaes ar Gylchdaith y Trallwm; a chan ei fod ef yn Gyrnro, er, fel gweiu- idog, ar Gylchdaith Seisneg, arferai ymweled yn ei gylch gweinidogaethol â'r Maesmawr; a gwahoddwyd ef i dalu yraweliad i'r Cwm-bychau-mawr, lle, mewn canlyniad i'r gwíhoddiad hwnw, y pregethodd. Merch o'r cysylltiad priodasol uchod, rhwng merch y Maesmawr a mab ac aer y Cwmbychan-mawr, oedd Mrs Edwards, am yr hon y mae genym i goffau. Teulu Eglwysig, ys dywedir, oedd teulu y Cwmbychan-mawr ; ond gan fodygangenarall yn Wesley- aid, yr oeddent yn rhyw barchus o'r cyfundeb hwnw ; a phan y daeth Mr. Jones, Bathafarn, ar ei daith Genadol Gyraraeg gyntaf i'r gymydogaeth, athrwyy parth- au hyny, ac y pregethodd ar ganol dydd gwaith yn y Felin, ger y lle y mae capel y Ty-ceryg, yn Nghylchdaith Machynlieth, gwahoddwyd ef i'r Cwm bychan- mawr i letya. Pregethodd y pryd hyny mewn amrywiol leoedd, nes dyfod y Sabboth i'r Cemaes, lle y bu orfod iddo bregetbu allan gan luosoced yr ym- gynulliad—o dret Machynlleth, a hyd yn nod o Benual ! Buwyd wedi hyny yn pregethu yn y Cwm-bychan-raawr hyd yr haf; ac yno y ffurfiwyd y gyra- deithas gyntaf. Y rhai a ymunasant gyntaf oeddent, Mr. a Mrs Jones, Cwm- bychanmawr; Mr. a Mrs. Jones, Cwm-bychan-bach, rhieni Mrè.'Mathew Williams, Liverpool; Mr. Griffith, Crylha; Mr. Edward Jones, Cygidog, kawd i ŵr Cwm bychan-mawr; Griflith Lewis, Ty-bach; a Mary Joues, ìm z Gyjp. 57.