Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

360 NEWYDDlON. Mehefìn 7fed, yn Lagos, Affrica, y Parch Jo- seph Wright, Cenadwr Wesleyaidd. Yr oedd yn frodor o wlad Aku, a dygwyd ef ymaith yn ei ieueagetid, ac a'i gwerthwyd i fasnachwr caeth- ion, a llwythwyd ef ar fwrdd llouggyda cbanoedd ereill. Daliwyd y llong gan Man-of- ÌVar Lloegr, a gollyngwyd y caethion truenus yn rhyddion ar ìanau Sierra Leone. Yno cafodd yr Aku ieuangc addysg, efe a ddychwelwyd, a ddechreuodd bre- gethu yr efengyl, arhoddôdd y fath foddlonrwydd u'i alwad i'r weinidogaeth, fel yr anfonwyd ef i Loegr i gael ei addysg yn yrEgwyddorfaüduwin- yddol. Gwnaeth ddefnyd'l da o'i arosiad yn Kichmond, a dychwelodd yn ol i lafuro i'w wlad ei hun, lle y bu yn Uafurio yn ffyddlon am ddeng mlynedd. üeallodd fod rhai o'i berthynasau wedi eu canfod yn Abbeokula, a phenderfynodd eleni wneyd taith yno i'w gweled Caniatawyd iddo hyny, a thra yr oedd gyda ei famr efe a gy- merwyd yn glaf. Vn deall ei fod yn marw, efe a ysgrifenodd íythyr tlws, doeth, ae effeithiol at ei fab, yr hwn a anfonodd efe i Loegr i gael ei ddysgu yn yr Egwyddorfa Athrawol, V\ estmin- ster. Mehefin 2"a''n, yn Murford's Mines, Kentuckv, Aineriea, o'r geri, Mr. Thomas Richards, yn 43 oed. Aethai at ei waith yn iach yn y l>oreu,ond cyn y nos yr oedd yn êi fedd." Gadawodd dri o hlant ar ei ol, heb dad na mam i ofalu »mdai)- ynt. Yr ydoedd yn ŵr cymeradwy, ac yn aelod gyda'r Wesleyaid. Erys y plant gyda'u hewythr, Wüliam Lewis, Mulford Miues.—Drych. Gorphenhaf 24ain, yn 29 oed, Mr.i. JJannah Morris, anwyl briod Cabden T. Morris, Aberyst- tcyth, a merch hynaf Cabden John Humphreys, o'r dref uchod, a chwaer Mrs. Pugh, Ltanrhaiadr, yr hon a ddygwyd i fyny yn grefyddol o'i hieu- engctid, ac a broffesodd broiics dd;t hyd y bedd. Dyoddefodd gystudd trwm yndawel a dirwgnach, ac yn hynod ystyriol o'r lìaiv yn yr hon y raae pob awdurdod. Hunodd yn yr angeu \n orfol- eddus ; cyraeddodd adref yu gynar o'r dydd ; nos- wyliodd a'i gwaith wedi ei orphen. Gadawodd briod hoff yn weddw, a dan o blant amddií'aid; ond cyn ymadael, cyflwynodd hwy i ofal yr Hwn a addawodd fod yn Farnwr y gweddwon, ac yn l)ad yr amddifad. Ein eysur yw, fod ei symnd- iad, er yn golled iddynt hwy, yn drugwyddûl enill iddi hi. " " E. P. Awst laf, ein hen chwaer Mnry Moses, Cier- fyrddin, yn 84 mlwydd oed, gwecìi l.od yn aelod diysgog a chyson gyda'r Trefnyddion Wesleyuidd Cyrnreig yn y dref hon am oddeutu 45 mlynedd. Vr oedd yn hynod o ffyddlon i gynorthwyo yr achos goreu yn mlaen yn ol eigallu, os nad uwêh law ei gallu. Cefais y fraint o'i (fweled rai troion tra yn ei salwch diweddaf. Cefais hi ar !>ob Iro yn hynod o amyneddgar, a boddlon i'w Thad nefol, a'i drefniadau doeth. Cafodd yr ysgrif- enydd y fraint o gladdu y rhati farwoì yn nhir claddu perthynol i'n capel ni y Cymry, dydd Mawrth, y 3ydd, Pregethwyd ar yr achlysur nos Sabboth diweddaf, ar y geiriau hyny a welir yn Luc x. 42, " A Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni." üiau iddi hi wneu- thurhyny. H. II. Awst 6ed, bu farw Mr. John Howells, mab hynaf Mr. a Mrs. Howells, y Pant, yn mhlwyf Meidrym, yn Nghylchdaith Caerfyrddin, yn 16eg mlwydd oed. Y mae ei dad a'i fam yn aelodau tra pharchus gyda'r Wesleyaid yn Sant Clears. Bu yn sal dros gryn lawer o amser, ond yr oedd yn hynod o foddlon, amyneddgar, a thawel yn ei fiin a'i faith gystudd. Cafwyd mai ei hyfryd- wch penaf oedd ei Feib), a'i lyfr Hymnau. Yr oedd yn adrodd rhai o'r penillion yn ei funud ddi- weddaf. Yr eedd y llyfrau hyu ar y ford yn ys- tafell ei wely gydag êf no3 a dydd. Cefais y fraint ar ddydd Llun, yr lleg, o bregethu cyn eyehwyn y corff o'r tŷ, i gynulleidfa fawr. H. 11. Awst 9fed, yn 2 fl. a dau fis oed, Susannah- Ellen, merch Mr. Hugh Humphreys, argraiî'ydd, Caernarfon, Awst lleg, y Parch. Samuel M'Dowell, gwein- idog Wesleyaidd, Belfast, yn 76aiu oed, a'r 48aiu o'i weinidogaeth. Awst 19eg, yn Marhet-Jlasen, y Parch. Thos. l'adman, gweinidog Wesleyaidd, ynìOain oed. Awst 22ain, o'r darfodedigaeth, Miss AnnJones, merch Cabden John Jones, Hendy, Llanbedrog, ger Pwllheli, yn 22ain oed. Awst 23ain, yn Vork, y Parch. Thomas East- tcood, gweinidôg Wesleyaidd. I3u yn weinidog llafurus a ffyddlon yn ein Cyfundeb uwch law deugain mlynedd, âc yn barehus iawn gan ei frodyr a chjìch helaeth o gyfeillion yn mhlith ein pobl. Awst 24ain, Mr. John Matihews, Tywyn,MeiT- ionydd, yn 84ain oed. Bu yn gariwr gonest a ffy ddlon 'rhwng Tywyn a Machynlleth am yn agos i haner can mlyuedd. Medi 5ed, yn y 18fed flwydd o'i oedran,Z)rt»''rf Jones, mab Mr Evan Jones, Rbuddlan. Ysgrif- ena ei dad atom fel hyn, " A lle Dafydd oedd wag." Gorchwyl caled i dad ywdweycl—Fy mab a fu faru ! ond felly rhaid dweyd am y bachgenyn hwn. Ganwyd eí' Ionawr 24, 1837. Collais ei anwyl fam pan ydoedd ef dan bnm mlwydd oed. Dyly'nodd lawer arnaf at y bedd hwnw, a gofyn- odd lawer cwestiwn yn nghylch y fam aorweddai yno. Ymdrechais i wneyd cynghor ei fam, scf ei fagu i'r Arghwdd, ac ni bu fy llafur yn ofer. Yr oedd yn aèlod o'r i'sgol Sabbothol er pan allodd gerdded iddi. Yr oedd " er yn fachgen yn gwy- bod yr Ysgrythyr Lân." Trysorodd ìawer ohoni yn ei gof, ac adroddai ef ar gyhoedd yn fynych yn bwtisig a chywir. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Gymdeitbas Wesleyaidd er's blynyddau ; ond daeth' y te;fyn, anadíodd ei olal' y 5ed o Medi, 1855, yn 18 ml. a 7 mis oed. "Ei haul a fach- ludodd a hi eto yn ddydd." " Felly nis caed ef, canys Duw a'i cymeroild." Ei dad, Jihuddlan. ' Evan Jones. Medi 8fed, yn Northtcich, sir Gaerlleon, lle yr ydoedd wedi myned ar ymweliad, y J'arch. Hu«h Cartcr, gweinidog Wesleyaidd, yn 71ain oed, a'r öüfed o'i weinidogaeth. "Yr ydoedd yn enedigol o Ddinbyeh. Dechreuodd bregethu yn ieuangc. Galwyd ef i'rgwaith teithiol yn 1805, mewn cy- sylitiad â'r genadaethGymreig, i lafurio jn mhlilh Cymry Manchester. BÛ wedi hyny yn teithio yn M'hwllheli, Dolgellau, Llundain, Aberystwith, Llanidloes, Drefnewydd, Trefynwy. Yr oedd yn y eylchdeithiau diweddaf hyn yn éael ei ystyried fel Gweinidog Saesonig a Chymreig, fel y byddai yr achos yn gofyn ; ond yn 1823, sefydlwyd ef yn Andover,'ac o hyny allan bu yn llafurio yn mhlith y Saeson. Yr oedd yn ddarllenydd mawr, yn efrydydd diflin yn yr Ysgrythyrau, yn neillduol o adnabyddus â heu Awdwyr Duwinyddol; ac y mae wedi gadael ar ei ol beth o ffrwyth ei lafur yn yr iaith Gymreig. Bu farw gan ymorphwys âr deilyngdod y Gwaredwr. Medi lOfed, Mrs. Jones, anwyl briod Mr. Ed- ward Jones, Patent Roller-maker, ger Abertawe, (gynt o Treffynon, sir Fflint). Cafodd Mrs.Jones gystudd bliii a thrwm, ond cafodd gymhoTth i ddyoddef yn dawel o dan alluog law yr Hwn sydd yn ceryddu y sawl y mae yn ei garu. . B. R. J. MENDUS JONES, AIIÜBAFFYDD, LLA.NIDI.0BS.