Skip to main content

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM MEHEFIN, 1854. Rhif. 6. Cyfres Newydd. Cyf. 46. BUCHEDDIAETH. COFIANT AM MR. EDWARD THOMAS, TYDDYN Dü, DYFFRYN ARDUDWY. (Parbâdtudal.115.) Anhawdd i'r darllenydd meddyigar beidio â sylwi, fan yma, mor gyflym y byddai ein tadau yn cynyddu, ac mor fuan y byddent yn tyfu yn wŷr yn ngwaith yr Arglwydd, rhagor llawer sydd yn eu dylyn. Ychydig iawn o amser oedd wedi myned heibio er pan oedd Mr. Thomas yn grynedig ei galon mewn edifeirwch, yn ymofyn y íFordd at Grist i gael ei fywyd; ac yn mben naw mis wedi hyny, y mae, tros Grist, yn dechreu "pregethu edifeirwch a maddeuaut pechodau yn ei enw ef." Lluosog oeddent y drysau o ddefn- yddioldeb a ymagorent o'i flaen ; ac mor barod oedd yntau i fyned i mewn iddynt, fel y teimlai mai ei fwyd a'i ddiod oedd gwneuthur ewyllys ei Dad o'r nef. Nid oedd angen am lawer o gymhellion oddi allan iddo, er ei gael at ei waith. Yr oedd y cariad gwresog a deimlai yn llosgi yn ei fýnŵes at Dduw a dynion, yn rhoddi iddo galon i weithio. Yr oedd wedi cyflawn ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd; ac ni welai ddim yn ©rmod i'w wneyd tuag at ddwyn ei achos mawr yn mlaen yn y byd. Yr oedd ei lafur, ei logell, a'i dý, wedi eu cysegru i'r perwyl mawr hwn. Taflodd ei dŷ yn agored ar y dechreu: a bu yn gartref clyd a chysurus i'n holl weinidogion a'n pregethwyr o'r amser hwnw hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth, oddi eitbr am un t) mor byr, yr hyn fe allai na fydd yn waeth ei grybwyli yn y fan yma.* * Yn niwedd y flwyddyn 1836, fe gynhyrfwyd ardal Dyffryn, fel holl ardaloedd Cymru hron, gyda'r " Symudiad Dirwestol.'' Yr oedd y wlad o hen bwy gilydd fel wedi ei tharo â thrydaniad ganddo—y gwŷr, y gwragedd. a'r plant—y gwŷr ieuaingc a'r gwyryfon, wedi codi allan yn fyddinoedd lluosog, i roi ergyd farwol ar hen meddwdod y genedl. ©wyliau dirwestol, traethodau, areithiau, gorymdeithiau, caniadau, banerau dirwestol, a dadlu ar ddirwest, oedd pwngc y dydd. Ac o bawb, nid E. Thomas, Tyddyn du, oedd y dyn i aros yn llonydd yn nghanol y cynhwrf yma. Yr oedd gormod o waith, o fywyd, o dân yn ei natur, i sefyll o*r neilldu i edrych ar ereill yn ymdrechu gyda symudiad ag oedd yn proffesu egwyddorion mor rhinweddol, ac yn amcanu at wneyd gwaith mor fawr. Ni bu ei feddwl yn hir heh ei argyhoeddi fod y moddion a gynygid er sohri y byd yn un effeithiol ac anffaeledig. Ac ar ol iddo foddloni ei hun fod y moddion anffaeledig yma yn un ymarferadwy, cymerodd ei safle ar unwaith yn front y fyddin. Trôdd allan yn Areithiwr tanllyd; a digon tebyg ei fod yn dysgwyl y buasai digon o ddysgleirdeb yn y goleu newydd hwn er dwyn pawb i weled, a theimlo, ac ymddwyn, fel ef ei hunan. Ond yn hyn fe'i siomwyd. A bob yn ychydig fe chwerwodd ei ysbryd yn erhyn y rhai hyny o'i gyfeillion crefyddol nad oeddent yn cydweled ac yn cydweithio âg ef yn yr achos yma. Defnyddiodd eiriau pigog wrth ymddyddan â hwy; cynyrchodd y rhai hyny eu rhyw. Magodd dyeithr- iwch rhyngddo arhai o'i gyfeillion anwylaf, neso'r diwedd y datganodd ei benderfyn- iad i gau ei ddrws yn erbyn pob pregethwr na byddai yn llwyrymwrthodwr â glwyb- yrod meddwol. Parhaodd pethau yn yr agwedd yma am ryw dymor; ac am y tymor hwnw nid ydym yn ameu dim nad Mr. Thomas a ddyoddefodd fwyaf yn ei deimladau 2 c Cyf. 46.