NEWYDDION. 127 Pfrancod, er ei fod yn dra phoblogaidd yn eu plith yn awr. Dywediadau Cicero.—Y raae dynion doeth yn cael eu cyfarwyddo gan reswm ; dynion o ddeall llai, gan brofiad; y mwy- afanwybodus, gan angenrheidrwydd; ond anifeiliaid, gan natur. Pysgod.—Daliwyd yr wythnos ddiw- eddaf yn Devonport gan tunell o fecrill! Tatws.—Y mae cryn lawer o datws wedi eu hanfon i'r wlad hon o Ffrainc yn ddiweddar. Y cam cyntaf.—Y peth cyntaf a wna yr Hispaenwyr mewn Trefedigaeth new- ydd yw adeiladu Teml; y Ffrancod, Chwareudŷ ; a'r Saeson, Dafarn.—Cha- TEAUBRIAND. Eithriad.—" Yr wyf yn melldithio yr awr y priodwyd ni ynddi," meddai rhyw un y dydd o'r blaen yn M------ wrth ei briod. " Na, na, peidiwch, fy anwylyd," meddai hithau; " dyna yr unig awr ddedwydd a welsom erioed." Llongddrylliad.—Ychydig o amser yn ol aeth llong Americanaidd yn ddrylliau yn Aberpwll, ger Tyddewi. Ymddengys fod y morwyr yn anwybodus o'r fan lle yr oeddynt: tybient eu bod ar gyffiniau yr Iwerddon. Pan ddaeth y llong i ymyl y lan, daeth naw o'r morwyr i dir, a gad- awsant bump ar ol mewn enbydrwydd am eu heinioes, sef y cadben, yr îs-gadben, a thri o'r llongwyr, lle y buont trwy y nos. Oddeutu hanner nos, darfu i'r dymhestl chwythu y llong i ddannedd y creigiau, a rhyfedd fel y gwaeddai y llongwyr am eu bywyd ! Daeth lluaws yn nghyd yn dra buan, a thrwy gyfrwng yr offeryn gwerth- fawr hwnw, " Manby's Apparatus," sef math o wn neu fagnel, tafiwyd rhaff allan gryn bellder; a phan ddaeth yn ddydd, llwyddwyd i dafiu rhaff allan i'r llong, a chafwyd y trueiniaid i dir, ac achubwyd eu bywydau. Yr oedd un o honynt, yr hwn oedd ddyn dû, yn aelod gyda'r Wes- leyaid yn Boston er's deng mlynedd ar hugain. J. W—x. California.—Dywedir fod papyr new- ydd i gael ei gyhoeddi yn y wlad bellenig hon, ar bapyr melyn, yn arwydd o'r aur a geir yno. California eto.—Y mae " Saint y dydd- iau diweddaf" yn cyrchu wrth y can- noedd i California, " gwlad yr aur," o am- rywiol barthau ein gwlad. Os yw dydd y farn mor agos ag y dy wedai un o'u preg- ethwyr yn Abertawe cyn cychwyn, prin y mae yn werth iddo ef a'i frodyr fyned mor bell. Hispaen a Lloegr.—Y mae y cam- ddeall a fu rhwng y gwledydd hyn yn ddiweddar, yn debygo gael ei benderfynu yn heddychol yn fuan. Geiriau da.—Geiriau da a wnant gyf- eillion, ond geiriau drwg a wnant elynion. Syr Matthew Hale. Breuddwydio.—Yr ydym agos â deffro pan yr ydyra yn breuddwydio ein bod yn breuddwydio.—Novalis. Un o bethau rhyfedd yr oes.—Cry- bwylla y Spalding Free Press am offeir- iad yn Whaplode Drove ag ydoedd wedi digio yn erwin wrth y clochydd, a dialodd arno hefyd, am iddo roddi i ryw greadur tylawd ddau bost llidiard pwdr, y rhai a berthynent i'r fynwent, y rhai oeddynt "wedi eu cysegru." Carcharor wedi dianc.—Diangodd dyn o garchar Wakefield yn ddiweddar, yr hwn a allodd fyned i ryw borthladd, ac a gymerodd long i'r America; ac ar y môr, wedi myned yn ddigon pell, anfonodd ly- thyr i'r carchar, yn diolch am fenthyg dillad y carchar, a'i fod yn awr ar y weil- gi fawr, ac am i'r awdurdodau ei ddal os medrent. Cyfnewidiad mawr.—Mae nwyddau yn cael eu cludo o Manchester trwy Liver- pool i'r America mewn llai o amser, ac ar lai cost, nag y gallesid eu cludo gynt o Manchester i Liverpool. Dywediad Gwyddel.—Y dydd o'rblaen, pan glywodd un o'r Irish Dragoons fod ei fam weddw wedi priodi, gwaeddodd allan mewn teimlad cyffrous, "Gobeithio na chaiff hi fab yn hŷn na mi; os caiíf, mi a gollaf fy etifeddiaeth!" F Pab.—Y mae y Pabyddion yn New York yn bwriadu cynal cyfarfod yn y ddinas hòno, er mwyn cyduno i ddeisyf ar i'r Pab wneyd ei breswylfod yn bar- haus yn yr America. Amgylchiad trallodus,. — Cafodd tri o bersonau eu lladd, ychydig o ddyddiau yn ol, ger Leicester, trwy i gyfiawnder o briddfeini syrthio arnynt yn y nos. Ym- ddengys mai tylodion oedd y rhai hyn, heb lety; ac felly llechasant yn nghys- god y priddfeini, a chyfarfyddasant yno â'u hangau. Dwfr hallt yn cael ei wneyd yn groyw. —Yr ydys wedi cael allan ffordd i ddwyn hyn oddiamgylch yn effeithiol. Darfu i'r offer mewn un o longau ei Mawrhydi, yn mis Rhagfyr diweddaf, ddysdyllio mewn mis 2,000 o alwyni. Bydd hyn yn fan- tais fawr i longwyr mewn mordeithiau pell. Tamaid go ddrud.—Darfu i ddynes o'r enw Ann Ẅalsh, yn y brifddinas, ychydig o ddyddiau yn ol, ladrata gwerth naw ceiniog o gig. Daliwyd hi gan y police, y rhai, wrth ei chwilio, a gawsant yn ei phoced £9 8s. Yrawdurdodau, gan weled mai nid ei thylodi a barodd iddi wneyd hyn, a roisant arni ddirwy o £5. Tro ydoedd yn haeddu cosp.