Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DUWINYDDIAETH. 295 bydd i Dduw eich cipio o domen eich llygredd, a'ch cyfleu ar orsedd gogoniant? Fe aiff y camel yn llythyrenol trwy grai y nodwydd yn gyntaf. Gwelaf y gallwch wneyd llawer er eich dinystr: ewch i gyfeillachau llygredig a thai gwageddus ; darllenwch a llefarwch yr hyn a lygra eich moesau, a haiarneiddia eich cydwy- bodau, ac a'ch pellâ o'r nefoedd; ac, wedi y cwbl, y mae genych y moesolder i ddywedyd nas gallwch wneyd dirn ereich iachawdwriaeth ! Gan y gallwch wneyd cymaint o ddrygioni, a yw yn bosibl na ellwch wneyd dim daioni ? A yw eich galluoedd oll wedi eu treulio allan mor lwyr yn ngwasanaeth y diafol, fel na ell- wch wneyd un gorchwyl na gweithio un awr yn ngwinllan Iesu? Ond pa bryd, o ddifrif, y ceisiasoch wneyd dim da? I ddechreu, meddyliwch yn sobr am eich sefyllfa; ewch i dŷ yr Arglwydd, yin- ddyddanwch â'i bobl, darllenwch ei air, a galwch ar ei enw fel y galloch; a thra yr ymarferwch chwi â'r moddion, fe effeithia Duw y dyben, sef iachawdwr- iaeth eicheneidiau. Rhaid i chwi wneyd y cyntaf, cyn y cwblha ef yr olaf. Dyma y drefn gyffredin raewn natur a gras. A ddysgwylia y masnachwr elwa heb roddi allan ei arian a'i eiddo ?—yr amaethwr fedi, heb arcdig a hau ?—y teithiwr gyr- aedd y lle amcanedig, heb deithio ?—na neh fyw, heb fwyta, yfed, a gwisgo ? Na ddysgwyliwch chwithau gael gafael ar yr "elw mawr," heb "farchnata yn ddoeth ;" " medi bywyd tragwyddol," heb " ftau i'r Ysbryd;" cyraedd y "breswylfa lonydd," heb deithio y "llwybr cul;" na byw yn dragywydd, heb fwyta y " manna cudd- iedig," yfed y "dwfr o'r graig," a chy- meryd am danoch y "wisg yr hon ni hen- eiddia." Na pherswadiwch eich huuain }' gwnaiff Duw y cwbl: gwnaeth a gwna eí ei ran; gweithiwch chwithau allan eich iachawdwriaeth, ac felly byddwch yn "gyd-weilhwyr â Duw." A phe can- fyddech eich cyflwr fel yn wir y mae, byddech yn barod i wneyd unrhyw beth fel na'ch coller. Pan argyhoeddwyd ceid- wad y carchar, ni chlywyd ef yn son nad allai wneuthur dim, ond ymholai mewn cyffro enaid, " Pa beth a wnaf ?" Ie, pa beth nas gwnaf, fel y byddwyf gadwedig? °wna pechadur argyhoeddedig lawer fel nas damnier ef. 2. Ni wnaiff crefydd ein diogelu rhag tylodi a thrallod.—Y mae cymaint o gnawdolrwydd yn nglŷn â llawer o ddyn- ion, fel yr edrychant am eu lles tymhorol oddiwrthbethau ysbrydol. Pe yr âi cref- ydd i'r farchnad i bwrcasu ymborth, neu i'r siop i brynu dillad, diau y byddai ei harddelwyr yn Uawer Uuosocach. Y mae ar lawer eisiau i grefydd ddiwallu eu newyn, tori eu syched, llenwi eu coffrau âg aur, a'u dyrchafu i gyfoeth ac annibyn- iaeth. Hyn eto a brawf amddifadrwydd o deimlad priodol. Y rheswm fod y dyn yn golygu ei newyn a'i syched am ym- borth a diod yw, am ei fod yn ddyeithr i'r teimlad o "newyn a syched am gyfiawn- der." Edrycha am gyfoeth bydol o her- wydd na ŵyr ddim am " dylodi yn yr ysbryd." Addefwn wiredd yr haeriad, nad yw crefydd yn diogelu rhag cyfyng- derau bob amser; ond sicrhawn y dichon wneyd hyny, oblegid y mae gan " dduw- ioldeb addewid o'r bywyd sydd yr awr hon." Ond ni sicrhawn y gwna hyny; ac os na wna, effeithia yr hyn sydd yn llawer mwy. Os na ddarpara i'w medd- iannydd gyfoeth tymhorol, sicrha iddo "olud gwell, ac un parhaus." Os yw ef yn dylawd yn y byd hwn, bydd yn gyf- oethog yn y nesaf; os yw yn llwm yma, bydd yn llawn yno; os yw yn iselwr a chardotyn yma, bydd yn "frenin ac yn offeiriad" yno; a bydd y cyfoeth a'r lla- wenydd fry yn annhraethol wrthbwyso y tylodi a'r wylofain yn nyffryn galar. Y mae Lazarus heddyw yn fil cyfoethocach nag y bu y gŵr goludog erioed yn y byd hwn. "Nid yw dyoddefiadau yr amser presenol yn haeddu eu cyffelybu i'r go- goniant a ddatguddir i ni." Ac os daw croesau a thrallodau, rhydd crefydd rym i'w cario a'u goddef; os daw cwpaneid- iau chwerwon, estyn gynorthwy i'whyfed: ac y mae nerth i gario y groes cystal a phe na byddai croes yn bod; grym i yfed y cwpan, yr un peth a phe "symudid y cwpan ymaith." Nid y w Duw yn gollwng ei blentyn i'r tân a'r dwfr, a sefyll draw i edrychamoyn dyoddef; na, aiffi'wcanol gydag ef; dyry ei law aswy dan ei ben, ac â'i ddeheulaw fe'i cofleidia, fel na "lifa y dwfr drosto, ac na enyn y fflam arno." Os gollyngwyd Job i'r pair, gofalwyd am ei ddwyn allan fel "aur wedi ei buro." Os gadawyd i Daniel fyned i'r ffau, a'r