Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

204 DUWINYDDIAETH. yn gwbl deilwng o'r gweithredoedd—yr effeithiau yn briodol a ehyfdddas i'r achos- ion. Felly yma. Wrth gynysgaethu ei greadur â'r gyneddf fywiol, y gallu gweith- redgar hwn, ei brif amcan oedd ei alluogi i ymgyweithasu âg ef ei hun. Godidog- rwydd y gyneddf a sicrha mai nid er di- fyrwch a chysur naturiol yr urddasolwyd ef à hi, ond er ei wneuthur yn fôd cym- deithasgar, galluog i ymgodi yn ei fyfyr- dodau at Dduw—i dalu iddo addoliad— cyfeillachu âg ef—a bod yn ddedwydd. Gwir fod yn anfeidrol ddarostyngiad yn hwnw i sylwi ar ddyn "yr hwn sydd bryf," ac y mae yn brawf o ddirfawredd llygredig- aeth y pryf hwn ei fod yn sarhau ei Lun- iwr, trwy droi clust fyddar at ei "lais dystaw main," yn lle traethu â chalon barod, "Llefara, Arglwydd, canys y mae dy was yn gwrando;" i fod mor drym- glyw a diystyr fel y mae yr Ysbryd Glân yn gorfod ei annog a'i gymhell beunydd, "tyred yr awr hon, ac ymresymwn." Gadewch eich bod yn cyfeirio uifer o ofyniadau a gosodiàdau i sylw creaduriaid y maes, a bod iddynt niewn iaith ddynol a dealladwy eu hateb a'u hegluro, diau y cyfrifech hyny yn beth rhyfedd ac anar- ferol, fel yn wir y byddai; eithr onid yw yn beth rhyfudd a sobr fod gofyniadau a rhesymau têg a theilwng o eiddo y Gor- uchaf yn cael eu trin gyda diystyrwch a dibrisdod gan y dyn ag y maent yn dal cysylltiad anwahanol â'iles a'iddedwydd- wch! Peth rhyfedd fyddai gweled anifeil- iaid yn ymddwyn tuag atoin ni fel pe byddent hwy ddynion ; ond peth rhyfedd- ach a sobrach ydyw ein bod ni yn ym- ddwyn tuag at Dduw fel pe byddem anifeiliaid ! A chofiwch, gan eich bod yn fodau rhesymol, eich bod yn fodau cyfrifol; gan y gwyddoch pa fodd i ymddwyn, yr ydych yn atebol am eich ymddygiadau : y mae rheswm yn ddigonol sail cyfrifol- deb. Yr ydym ni yn gwybod ewyllys ein Harglwydd, ac fe'n condemnir os na wnawn hi. Gadawer i reswm gael lle i lefaru—dygwch eich gwrthddadleuon yn mlaen—"deuwchyrawr hon, ac ymres- ymwn." Os gellwch chwi brofi trwy eich rhesymau mai gwasanaeth pechod yw y goraf—fod Satan wedigwneyd mwyeroch na Christ—uc y bydd ei daledigacth yn helaethach yn y diwedd, yna gadawn lonydd i chwi "fyw yn ol helynt y byd hwn;" ond tra nas gallwch acnasmeidd- iwch byth wneyd hyny, yna yrydychi'ch beio am ddewis y diafol a gwithod yrlesu —caru pechod, a chasâu rhinwedd— gwneyd yr hyn nad oes genych unrhyw reswm drosto, ac esgeuluso yr hyn ag y mae pob rheswm ac ysgrythyr yn sicihau y dylasech fod wedi ymosod arno er's blynyddoedd. Dechreued cyfnod newydd a chysonach yn eich bywyd : bydded i grefydd bellach ennill yr orsedd ag y mae camwedd wedi eistedd arni cyhyd: medd- yliwch beth a ddaw ohonoch os byddwch feirw yn anmharod! A rhag i chwifyned yn fud yn y farn, "deuwch yr awr hon, ac ymiesymwn." II. Ar y rhesymau hyny a ddygir GAN DDYNION YN ERHYN YMLNO A CHREE- YDD. 1. Y mae y cwbl o Dduw ; nis gallwn ni wneuthur dim.—Diau fod miloedd yn credu hyn, ac y mae llawera'i tystiantyn eofn. Nid oes ganddynt yr un gwrth- wynebiad i gael eu hachub, nac yn wir yr un dymuniad cywir am hyny. Ni ddywedent ddim yn erbyn i Dduw eu cario yn mreichiau ei drugaredd i'r nef- oedd; ond na sonier am iddynt hwy gerdded cam tuag yno. Dylai y rhestr difater yma gofio, gan y cyfaddefant nas gallant eu hachub eu hunain, i beidio eu dinystrio eu hunain ;—gan nas gallwch eich santeiddio eich hunain, ymgedwch oddiwrth aflendid; — gan nas gallwch faddeu eich pcchodau, peidiwch â'u cyf- lawni. Y mae eich addefiad nas gallwch gael gras yn galw arnoch i ymwadu âg annuwioldeb. Gwnewch eich anallu i gwblhau daioni yn fur rhyngoch a chyf- lawni drygioni: os bydd yn ddefnyddiol yn rhywle, dyna y fan. Paham yr ar- swydwch wenwyn gymaint? onid am nas gallwch eich gwella eich hunain oddiwrth ei effeithiau ?—neu paham yr ymogelwch mor fawr rhag cwympo dros y clogwyn ? onid o herwydd nasgallwch eichgwaredu eich hunain ? Ond cofiwch, tra yn aros yn y cyflwr yna, yr ydych yn gwthio eich cadwedigaeth yn nes i derfynau anmho- sibilrwydd. A ddysgwyliwch gael eich achub tra yn ymdroi mewn pcchod ?—>'