Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DUWINYDDIAETH. 293 dyniad at berffeithrwydd, a chynydd mewn rhagoroldeb. Greddf sydd anian-duedd naturiol a digynydd; rheswm sydd eg- wyddor fywiol a chynyddgar. Greddf a lywodraetha yr anifel; rheswm a reol- eiddia ddyn. Dadleua rhai, o opiniynau anffyddaidd, mai yr un peth (sef greddf) sydd yn llywodraethu dyn ac anifel, ond fod y dyn yn meddu ar y reddf hòno i fesurau uwch a llawnach na'r anifel. Ond pe felly, paham nad amlygai y naill fel y lla.ll yr un prawfiadau o'r unrhyw eg- wyddor? Paham nad arddanghosai yr anifel, fel y dyn, yr un cynydd ac ymes- tyniad at berffeithrwydd? Gwir fod yr úb yn meddu ar gyfrwysdra—y ci ar gall- ineb—a'r afanc a'r ddeheurwydd; ond nid mwy felly yn awr nag oeddynt mewn oesau mynedol, neu a fyddant mewn rhai dyfod- ol. Ond nid felly dyn : ymgyrhaedda ef at welliant a rhagoroldeb—ymagosà beu- nydd at berffeithrwydd—a dring yn uwrch- uwch, o ft'on i fí'on, yn ysgol gwybodaeth, nes ymgodi i'w phinacl uwchaf. Erprawf o hyn, cydmharer arffedogau deiliog ein cyn-riaintâ'n gwisgoedd cywrain-wauedig ni—amaethyddiaeth Cain âg un ddiwyll- iedig yr oes hon—a chelfyddydaeth Tubal â gwyddonau coethedig y dyddiau presen- ol, acheir prawfogynydd rheswm. Rhag- ora y naill genhedlaeth ar y llall—y mab ar y tad, a'r ŵyr ar y ddau. Y mae y mwyaf gwybodus yn ystyriol nad yw eto " wedi ei berffeithio," ond dylyn ac ymes- tyn y mae. llyn a neillduola ddyn oddi- wrth yr heidiau dirif a'i cylchyna—a'i harddengys gergwydd bodaeth fel un "rhy- fedd ac ofnadwy " yn ei wneuthuriad, a dim llai felly yn ei weithrediadau. Rhe- swm, gan hyny, yw w>d gwahaniaethol dyn. 2. Rheswm yw un o brif ragoriaethau <ty".—Nid yn nghorff dyn y cynwysir ei ardderchogrwydd penaf. Gwir fod ei edrychiad yn fawreddog a breiniawl: pelydra doethineb a gallu creawl drwy bob gronyn o hono : ynddo cymherfedda dvfais a daioni goruwchnaturiol, a saif o flaen bodaeth oll fel gwrthddrych o syndod annhraethadwy ! Ond, heb daflu sarhad « ei urddas, gellir dweyd fod rhai o gre- aduriaid llwch ei draed yn meddu ar rag- oi'Laethau ag y mae ef, brenin y greadig- aeth, yn amddifad o honynt i'r un graddau. Y mae y cawrfil yn meddu mwy o gryfder, a'r march fwy o gyflymder, na dyn. Ond ei feddwl a'i reswm a'i dyrchafa ef i'r orsedd. Trwy y rhai hyn efe a wna i fyny ei ddiffygion ei hun â rhagoriaethau cre- aduriaid ereill. Gwnai'r cawrfil roddi ei gryfder at ei wasanaeth ef, a chyflenwa ei arafwch ei hun à chyflymder y marcb. Dalia yr anifeiliaid croen-flewog, a chy- nhesa ei hun á'u gwisgoedd hwy; daros- tynga yr adar llyfn-bluog, aphrydfertha ei hun â'u harddwch hwy. Gwasgara ei arswyd drwy y greadigaeth, a dwg ei haml greaduriaid yn îs-wasanaethgar iddo ei hun. Dysg ei reswm i ddyn pa rai o'r creaduriaid i'w gwrthod, a pha rai i'w defnyddio er ei gynaliaeih; pa lysiau a phlanhigion a gynwysant ddefnyddiau i wneyd i fyny ei feddyginiaeth ; pa fŵnau a pherlau ar wyneb ac yn nghrombil y ddaear a efì'eithiant ei gyfoeth; a pha ar- ferion a phleserau y mae i ymwneyd â hwy er cwblhau eiddedwyddwch. Y mae corff dyn yu gyfansoddedig o bridd, ac yn fuan bydd wedi ei ddarostwng i lwch a lludw; ond ei reswm a'i dyrchafa goruwch y ddaear yr hon a droedia, ac a ddengys iddo ryfeddodau bydoedd abodau sydd yn drylawn o ardderchogrwydd ac arddun- iant. Er nad y w dyn yn meddu ar lygaid fel yr eryr i allu tremio ar yr haul; eto ei reswm a gymer ei glorian mewn un llaw, aca'ipwysa; à'i linyn yn y llall, ac a'i mesura. Trwy hwn, ymlwybra yn mhlith ser a phlanedau—noda eu maintioli, eu pellderau, eu chwyldroadau, eu dylan- wadau, ac o'r bron eu rhifedi! Ie, â yn mhellach na hyn—mor beìl fel na lewyrcha un wreichionen o oleuni y bydoedd hyny arno, pryd y cymerafael ynnghanwyll an- farwoldeb, Husern gair Duw, yn ngoleuni pa un yr ymdreiddia draw, drawr, i eithaf- ion yr eaugderau. Dringdros ganllawiau aur y ddinas fry—yniheda yn awyrgylch y drydedd ncf—cyrhaedda hyd gylchau go- goniant tragwyddoldeb—chwareuao flaen gorscdd belydrawg Ior—ac ymwynfyda yn dragyfyth yn ci bresenoldeb dysglaer ! Rheswm yw un o brif ragoriaethau dyn. 3. Rheswm sydd yn galluogi dyn i ym- resymu â Duw.—Ni wnaeth yr Anfeidrol ddim yn ddiddybcn, ac y mae y dybenion