Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

292 DUWINYDDIAETH. DUWINYDDIAETH. DUW A DYN YN YMRESYMU: PREGETII. Anwyl Frawd,—Traddodwyd y Bregeth hon gan Mr. H. Parry yn Nghapel St. Mary Axe, yn Llundain; ae ar ein dyrauniad fel Eglwys y mae yn ei hanfon i'w hargraffu yn yr Eurgrawn. Go- beithio y caiff y sawl a'i darlleno gymaint o les ag a gawsom ni wrth ei gwrando. Wyf eich serchog Frawd, 11. Wn.cox. " Deuuch vr airr hon. ac vmresymwn, medd vr Ar- gluydd."—Esay i. 18. Yn ngwyneb y lluosog anhawsderau a'r dirfawr ddigalondid ag y mae gan weision y Goruchaf i lafurio danynt, y mae yn "gysurcryf" iddynt gofio fod ganddynt i ymwneyd â bodau rhesymol. Er fod yr egwyddorion a gymhellan t a'r athrawiaeth- au a gyhoeddant yn gwbl wrthdarawol i dueddiadau calon lygredig dyn, yr hon sydd yn orlawn o drueni a thywyllwch, ac yn berwi mewn cynddaredd yn erbyn y " gwirionedd fel ag y mae yn yr Iesu;" eto, pan gofiant pa mor anwybodus a di- rywiol bynag yw gwitliddrychaueu gwein- idogaeth, eu bod wedi y cwbl yn greadur- iaid rhesymol, acfelly yn fodau cyfrifol, ac fel y cyfryw yn alluog i dderbyn argy- hoeddiad, hwy a ymwrolant, ac a ymosod- ant yn galonog ar y gorchwyl anhawdd o'u perswadio i ddyfod i geisio heddwch a ff'afr Duw. Oni bae fod gwrandawyr yr efengyl yn alluog i ymresymu, ni byddai ond yr un peth pregethu i bysg y môr neu ehediaid yr awyr ag iddynt hwythau: yr eiliad ag yr argyhoeddid cerig y mur, neu lechau y tò, yr argyhoeddid y bobl ymgy- nulledig o'u mewn. Ond y mae yn ffaith gysurus fod dyn yn alluog i ymresymu, ac felly yn gyfryw ag y gellir darbwyllo ei feddwl ac argyhoeddi ei farn. Profir rhag- llaw fod dyn yn freintiedig â'r gyneddf odidoghon; ond pe pallai pob prawf o'n heiddo, y mae fod Duw y gwirionedd yn ymddwyn at ac yn edrych ar ddyn fel un galluog i ddewis a gwi thod, i ewyllysio a gweitliredu, yn sicrhau ei fod yn llywodr- aethedig gan y gallu hwn. Pe na byddai dyn yn fcddiannol ar reswm, byddai ei Grëwr yn galw aruo i weithredu yr hyn na roddes iddo allu ato, pan y mae trwy y proffwyd, yn ngeiriau y testyn, yn dy- wedyd, "Dou-wch yr awr hon, ac ym- resymwn." Sylwn, yn I. Ar ansawdd a chyneddfau y ehe- swm dynol.—Nodwn, yn 1. Mai rheswm yw nûd gwahaniaethol dyn.—Y mae nodau o wahaniaeth ac am- rywiaeth yn wasgaredig ar hyd a lled y byd oll. Y mae y cerig, y llysiau, a'r coed--afonydd, llynoedd, a moroedd-pysg, ymlusgiaid, ac ehediaid—ser, planedau, a chyfundraethau, oll yn dirfawr wahau- iaethu; ac yn yr amrywiaeth diderfyn hwn ni a welwn "fawr amryw ddoethineb Duw." Y mae gwahaniaeth eglur yn ganfyddadwy rhwng yr un rhywogaeíh o greaduriaid, ond y mae mwy felly rhwng rhywogcieth a rhywogaeth, fel y mae "rhagorrhwng seren a seren." Heb hyn byddai y byd yn llawn annhrefnac afreol- eiddiwch; ymgymysgai creadnriaid rheib- us a dofion â'u gilydd, er dinystr y naill a'r llall; a byddai ein daear yn llawn an- nhrefn, cynhwrf, ac annghytundeb trwyddi draw. Y mae yn ormod gorchwyl nodi yr holl bethau yn mharai y gwahaniaetha gwrthddrychau a rhywogaethau lluosog y greadigaeth ; ond gelìir dweyd mai yr hyn a ddidola y creadur o ddyn o fysgholl dy- iwythau y ddaear—mai y* hyn a'i gwa- hannoda ef o blith pawb a phob peth, yw ei reswm. Gosodwyd y nôd hwn ar ddyn yn ei greadigaeth, ac ni amddifadwyd ef o hono yn ei gwymp. Dyosgodd pechod ddyn o luaws o ragoriaethau—yspeiliodd ef o heddwch yr Anfeidrol, o bleserau Eden wiw, a dedwyddwchpurparadwys; ond gadawodd iddo ei reswm. Diau fod y gyneddf hon ynllawer gloywach a chyf- lymacli yn flaenorol i'r cwymp, nag yn ddylynol iddo: anhwylusodd pechod ci weithrediadau, llyfi'etheiriodd ei symud- iadau, dallodd ei lygaid, a chylymodd blwm llygredigaeth wrth ei adenydd. Cawn brawf yn ebrwydd ar ol y cwymp fod eu rheswm yn meddiant ein rhieni: hwy a wybuasant eu sefyllfa—"gwelsant eu bod yn noethion—gwniasant ddail y lFigysbren, a gwnaethant iddynt arffedog- au." Ac y mac euhiliogaeth, o hyny hyd yn awr, wedi ain'.ygu prawfiadau cynyddol o'u rheswm, ac i raddau uwch a phellach na'u rhieni; ac yn hyn y gwahaniaethir rheswm oddiwrth reddf, sef mewn ym-